Click here for English version

Cymryd cawod mewn 4 munud?

Cymryd cawod mewn 4 munud?


Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o bobl yn treulio rhyw 10 munud yn y gawod bob dydd. Trwy leihau hynny i 4 munud, gallai pawb ohonom arbed 13,000 litr o ddŵr y flwyddyn a chael diwrnod a hanner yn rhagor o amser i ni’n hunain mewn blwyddyn.

Gall Kriss Akabusi, enillydd medalau am redeg yn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaeth y Byd, gael cawod mewn llai na thair munud. Faint mae’n ei gymryd i chi?

Environment and Sustainability Minister Jane Davidson

Yn ôl Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, sy’n cefnogi’r ymgyrch

“Mynd i’r gawod ac ymolchi sydd i’w gyfrif am tua un rhan o dair o’r dŵr a ddefnyddiwn yn ein tai. Os ceisiwn dreulio llai o amser yn y gawod, fe ddefnyddiwn lai o ddŵr ac ynni. Felly bydd ein hôl troed carbon yn llai a bydd hynny’n help i fynd i’r afael â her newid yn yr hinsawdd.”


Allwch chi gael cawod mewn pedair munud?

Wyddech chi fod y Cymry yn treulio rhyw 10 munud y dydd, ar gyfartaledd, yn y gawod?

Trwy leihau hyn i bedair munud, byddech yn:
  • cael diwrnod a hanner yn fwy o amser rhydd bob blwyddyn
  • arbed dros 13,000 litr o ddŵr y flwyddyn – sy’n cyfateb i 162 llond bath
  • arbed ynni a gostwng allyriadau CO2
Allwch chi mewn 4?

Cliciwch yma i wneud eich addewid

Cliciwch yma i wneud eich addewid

Dw i’n rhoi her i chi…

Dw i’n rhoi her i chi…

Argraffwch ein poster a’i godi yn eich cartref, eich ysgol neu’ch gweithle.

Cliciwch yma i lawrlwytho’n poster

Her ‘Shower Power’ Waterwise

Her ‘Shower Power’ Waterwise

Cliciwch yma i fynd i’w gwefan