Fel rhan o’r drefn newydd i drwyddedu cwmnïau cyflenwi dŵr, bydd rhaid i bob cwmni dŵr awdurdodedig yng Nghymru a Lloegr ddilyn Cyfarwyddyd Ofwat o ran darparu mynediad i’w systemau cyflenwi i ddeiliaid trwyddedau newydd. Un o’r amodau yw bod rhaid cyhoeddi Codau Mynediad & Prisiau Mynediad Mynegol. Mae’r codau mynediad yn cynnwys polisïau cyffredin i bob cyflenwr dŵr ac unrhyw amodau mynediad arbennig i system gyflenwi cwmni unigol. Mae’r prisiau mynediad mynegol yn galluogi deiliaid trwyddedau i amcangyfrif prisiau am fynediad i systemau cyflenwi cwmnïau dŵr.
Cliciwch y linciau perthnasol ar y dde er mwyn llwytho copïau o ‘Cod Mynediad’ a/neu ‘Prisiau Mynediad Mynegol’ Dŵr Cymru
Os am holi ymhellach neu archebu copi papur o’r dogfennau, cysylltwch â:
Mr Sean Larkin
Commercial Supply Manager
Dŵr Cymru Cyfyngedig
Heol Pentwyn
Nelson
Treharris