Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bydd digon o ddŵr i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid yn y dyfodol. Er mwyn paratoi ar gyfer hynny, cynhyrchwyd Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr ynghyd â chrynodeb o’r cynigion.
Mae’r Cynllun drafft hwn yn amlinellu ein strategaeth adnoddau dŵr 25 blynedd i reoli adnoddau dŵr ar draws ein rhanbarth a chynnal y cydbwysedd cyflenwad a galw.
Yn debyg i bob cwmni dŵr yn y Deyrnas Unedig, mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau tebyg ers 2000. Fodd bynnag, yn dilyn newid i amodau Deddf Diwydiant Dŵr Act 1991, dyma’r tro cyntaf i ni gyhoeddi Cynllun statudol fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Clic yma am wybodaeth bellach am y broses ymgynghori.
Er sicrhau byddwn yn gallu parhau i gynnal cyflenwadau yn y dyfodol, rhaid i Dŵr Cymru ystyried yr holl ffactorau a allai effeithio cyflenwadau a’r galw am adnoddau. Bydd hynny’n cynnwys newidiadau i’r boblogaeth a’r dŵr bydd pobl yn defnyddio, effeithiau’r newid hinsawdd a newidiadau i ddeddfwriaeth a allai gyfyngu’r dŵr byddwn yn gallu tynnu o afonydd.
Mae’r Cynllun drafft yn nodi parthau diffyg ble bydd y galw’n fwy na’r cyflenwad (neu’n debyg o fod) ac yn nodi atebion addas i gynyddu cyflenwadau neu reoli’r galw. Rydym wedi edrych ar amrediad o opsiynau, yn cynnwys ffynonellau dŵr newydd, defnyddio dŵr môr, trwsio gollyngiadau ar bibellau a hyrwyddo mesurau effeithiolrwydd dŵr. Clic yma am fanylion y cynlluniau yn eich ardal.
Yn unol ag adran 37B(3) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, mae Dŵr Cymru’n cadarnhau nad ydym wedi cadw unrhyw wybodaeth allan o’r Cynllun yn rhinwedd Adran 37B(10).
Dylanwadwyd ar yr opsiynau gan Asesiad Amgylcheddol Strategol (Strategic Environmental Assessment - SEA). Yn ogystal cyhoeddwyd yr Asesiad Amgylcheddol Strategol er mwyn cynnal ymgynghoriad ar wahân i’r Cynllun drafft. Clic yma os am ddarllen a gwneud sylwadau ar yr Asesiad.
Cwblhawyd Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd ar gyfer y Cynllun drafft er sicrhau na fydd yn debyg o gael 'effeithiau sylweddol' ar safleoedd Natura 2000 yn Ewrop.