RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Strategaeth Rheoli Dŵr Wyneb

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Strategaeth Rheoli Dŵr Wyneb

Cysylltu â ni

  • Gwasanaethau carthffosiaeth ac argyfyngauClic yma i anfon ebost neu galwch 0800 085 3968

Green Space Wales

Man Gwyrdd Cymru

Menter i hyrwyddo draenio naturiol i gynorthwyo’r rhwydwaith carthffosiaeth i ymdopi’n well gyda newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd mewn trefoli er mwyn gostwng digwyddiadau o lifogydd carthffosydd.

Clic yma i weld mwy

Clic yma i lawrlwytho ein Strategaeth Rheoli Dŵr Wyneb.

 

Tŷ rhyngweithiol i’ch helpu i reoli dŵr glaw

Er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniadau cynaliadwy ynglŷn â rheoli’r dŵr glaw sy’n disgyn ar eu cartrefi, mae Dŵr Cymru wedi datblygu tŷ rhyngweithiol.

Gallwch weld ffrynt a chefn y tŷ ac mae’n dangos gwahanol ddulliau o reoli dŵr glaw. Er enghraifft, gosod defnyddiau hydraidd ar y llwybr a’r patio, datgysylltu peipiau dŵr glaw a sianelu’r dŵr i ardd law, toeau gwyrdd, casgenni dŵr a chasglu dŵr glaw i’w ailddefnyddio yn y cartref.

Mae’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth ac arweiniad mewn perthynas â’r holl reoliadau cynllunio yng Nghymru a Lloegr, ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar ei safle www.planningportal.gov.uk.

 

Casglu Dŵr Glaw

Mae cwmni peirianneg amgylcheddol ac arbenigwyr dŵr o’r enw MWH yn cydweithio Dŵr Cymru a’r gwneuthurwyr, Aqualogic, i wneud systemau casglu dŵr glaw fforddiadwy y gallwch eu rhoi ar waliau’ch cartref. Gall y rhain eich helpu i ddefnyddio llai o ddŵr ac i leihau llifogydd.

Fel rhan o’n strategaeth i reoli dŵr wyneb, rydym yn datblygu system syml i gasglu dŵr glaw am bris isel. Bydd yn golygu bod llai o ddŵr glaw yn mynd i’r system garthffosiaeth. I ddechrau, dim ond i dynnu dŵr y toiled y defnyddir y dŵr a gaiff ei gasglu ond efallai y bydd modd ei ddefnyddio ymhen amser i ddyfrhau’r ardd ac at ddibenion eraill lle nad oes angen dŵr o ansawdd dŵr yfed.

Mae’r system yn cael ei threialu yn ein swyddfeydd yng Nghilfynydd a Nelson, a bydd y gwersi a ddysgir yn cael eu defnyddio wrth symud ymlaen i dreialu ar raddfa fwy.

 

Dŵr Wyneb a’r Ystafell Ddosbarth

Mae model wedi’i gyflwyno i gyd-fynd â’r wers Newid Hinsawdd sydd ar gael yn ein canolfannau addysg. Mae’r disgyblion yn ystyried y newidiadau yn hinsawdd Prydain a’r cynnydd mewn storymydd difrifol sy’n golygu bod mwy o ddŵr glaw yn mynd i’r carthffosydd. Maen nhw’n gwneud tasg ymarferol i gael gweld pa mor hydraidd yw gwahanol ddefnyddiau.

Mae’r modell yn dangos bod datblygiadau newydd yn codi a defnyddiau anhydraidd yn cael eu gosod lle’r oedd tir glas. Mae hyn yn gwaethygu’r problemau a achosir gan ddŵr wyneb. Mewn stormydd trwm, gall y glaw orlwytho’r rhwydwaith carthffosydd gan beri iddo orlifo ac achosi llifogydd.

Meddai Marie Williams, athrawes ar secondiad gyda Dŵr Cymru yng Nghilfynydd: “Yn ystod ymweliadau addysgol, mae’r disgyblion yn cael ystyried effeithiau posibl newid hinsawdd. Maen nhw’n cael ymchwilio’n ymarferol i’r materion sy’n ymwneud â draenio dŵr wyneb a dechrau gwneud penderfyniadau am y defnyddiau gorau i’w defnyddio wrth fynd ati i adeiladu ac ailddatblygu yn ein cymdeithas.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein canolfannau addysg, cliciwch ar y ddolen.

 

corner

Gwybodaeth bellach

SWEARwords

Gwaredu A Gostwng Dŵr Arwyneb

Rhif 3 Cylchlythyr Clic yma

Strategaeth Rheoli Dŵr Wyneb

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 173kb

Y mae Dŵr Cymru yn lansio ‘Man Gwyrdd Cymru’

Flash movie - Ffeil: 41.2Mb

Strategaeth Rheoli Dwr Wyneb ‘Man Gwyrdd Cymru’ - Professor Richard Ashley

Flash movie - Ffeil: 12Mb

Dwsin Drwg

Dŵr Cymru’n ymosod ar y ‘Dwsin Drwg’

Clic yma i gael gwybod mwy…

NGfL Cymru

Rheolir y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru (GCaD Cymru) gan CBAC ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cylch gwaith y GCaD yw datblygu ei llyfrgell o adnoddau rhyngweithiol ar gyfer athrawon a dysgwyr ar bob lefel. Mae’r llyfrgell yn cynnwys bron i 3,000 o adnoddau addysgiadol o ansawdd uchel sy’n bosib eu llwytho i lawr, a’r oll ohonynt yn cynorthwyo pob Cyfnod Allweddol o’r Cwricwlwm, o Flynyddoedd Cynnar i ôl-16. Mae llawer o’r adnoddau yn rhyngweithiol, ac mae pob un wedi’u cynhyrchu gan athrawon sy’n gweithio.