RYDYCH YMA > Hafan > Cymunedol, Addysg a Hamdden > Addysg > Podcast

Sut i drechu’r galwyr ffug

corner

Sut i gysylltu â ni

  • Ymholiadau addysgClic yma i anfon ebost neu galwch 01443 492720
Sut i drechu’r galwyr ffug

Mae mwy na hanner y troseddau ymwelwyr ffug yn y DU yn cael ei wneud gan droseddwyr yn esgus dod o gwmni dŵr - ac mae Dŵr Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd i fod ar eu gwladwriaeth rhag twyllwyr sy’n cymryd mantais o bobl hen a bregus.

Mae’r cwmni a’r cyfan o ddiwydiant dŵr y DU wedi ymuno gyda’r heddlu a’r llywodraeth mewn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r broblem, ble mae troseddwyr yn twyllo’u ffordd i mewn i gartrefi pobl i ladrata. 

Dengys ystadegau fod tua 35 o droseddau ymwelwyr ffug yn cael eu cyflawni pob dydd, ond credir y gallai hynny fod cyn lleied â 10% o gyfanswm nifer y troseddau sy'n digwydd mewn gwirionedd gan fod yn aml ormod o gywilydd ar y dioddefwyr i gyfaddef. 

Bwriad yr ymgyrch ‘Cnoc Cnoc.  Pwy sy ‘na?  Holwch yn iawn cyn eu gadael i mewn, sy’n cael ei chefnogi gan y Swyddfa Gartref, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Water UK a Chyngor Cwsmeriaid Dŵr, yw codi ymwybyddiaeth yn genedlaethol ymysg pobl o bob oedran a helpu i rwystro’r trosedd annymunol hwn. 

Meddai Suzanne Evans, Dŵr Cymru, “Mae troseddwyr dideimlad yn targedu pobl fregus ac yn aml yn lladrata’r holl arian sydd ganddyn nhw. Ond mae pethau y gallwch eu gwneud i’w rhwystro ar unwaith.

“Os ydych yn ansicr pwy yw’r person sy’n honni ei fod yn dod o Ddŵr Cymru, peidiwch â gadael iddo ddod i mewn i'ch cartref.  Gall cwsmeriaid ffonio Dŵr Cymru ar 0800 281 141 i gadarnhau pwy yw’r galwr ac ni fydd wahaniaeth gan weithwyr diffuant ddisgwyl tra’ch bod yn gwneud hynny.   Mae cynlluniau cyfrinair hefyd yn rhoi gwarchodaeth a heddwch meddwl pellach i gwsmeriaid - bydd unrhyw un sydd angen mynd i mewn i gartref cwsmer yn gwybod ac yn defnyddio’r cyfrinair. Rydym yn annog ein holl gwsmeriaid i fod yn wyliadwrus – ac i bobl rybuddio’r rhai y maen nhw’n teimlo allai fod yn fregus.”

Meddai Diane McCrea o Gyngor Cwsmeriaid Ddŵr Cymru, “Mae gan bobl berffaith hawl droi ymwelwyr digroeso i ffwrdd ar unrhyw adeg, yn enwedig os nad ydyn nhw’n fodlon gyda’r wybodaeth a geir ganddyn nhw. Ni fydd unrhyw gwmni dŵr byth yn mynnu cael mynd i mewn i’ch cartref.”

Cyngor ar fesurau i daclo galwyr ffug wrth glicio ar y linciau isod.

Cnoc, Cnoc. Pwy sy’na? Byddwch yn barod i ddweud ‘Na’!
Clic yma i weld ffilm fer am Alwyr Ffug

 

Galwyr Ffug

Copïwch y linc isod i’ch meddalwedd Podcast er mwyn cysylltu â’r Podcast.

www.dwrcymru.com/bogus_caller.xml

 

iTunes Galwyr Ffug

Copïwch y linc isod i’ch meddalwedd iTunes er mwyn cysylltu â’r Podcast.

www.dwrcymru.com/bogus_caller_itunes.xml

 

Galwyr Ffug (Cymraeg)

Clic i’w lwytho (os am ei gadw ar y desktop, clicio’r botwm de a “save target as”)

corner

Gwybodaeth bellach

Clic yma i weld cyfweliad BBC gyda Don Pape a ddioddefodd dan law galwyr ffug.

Clic yma i weld cyfweliad BBC gyda Don Pape a ddioddefodd dan law galwyr ffug.

Cadw’n saff gyda SPLASH!

Clic am gyngor Splash am y peryglon o nofio mewn cronfeydd.

Clic yma i weld ffilm fer am Alwyr Ffug

 

Clic yma i weld ffilm fer am Alwyr Ffug.

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Amheus? Cadwch nhw allan!

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 130kb


Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Gwasanaethau ychwanegol

Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

Ffeil: 508kb