Datganiad Bioamrywiaeth, Mynediad a Hamdden
Rydym wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth, diogelu ein treftadaeth archeolegol a hyrwyddo mynediad a hamdden ar ein safleoedd.
Wrth wneud hynny, byddwn yn
- Hyrwyddo arferion da ac yn integreiddio ystyriaethau bioamrywiaeth a threftadol drwy’r busnes
- Rheoli adnoddau dŵr a thir er mwyn cynyddu a symbylu defnydd o’n safleoedd gan y cyhoedd
- Cynnal ymgynghoriadau, arolygon ac ymchwil er mwyn cymryd penderfyniadau gweithredu a rheoli ar sail data dibynadwy
- Gweithredu cynlluniau cynefinoedd a rhywogaethau ar ein safleoedd er mwyn datblygu cynllun bioamrywiaeth corfforaethol
- Rhannu data ecolegol a threftadol gyda chyrff cymwys
- Siarad â, a datblygu cysylltiadau positif â’r cyhoedd a chyrff cadwraeth, mynediad a hamdden allweddol
- Bod yn barod i ystyried meysydd sensitif wrth weithredu cynlluniau
- Dilyn yr holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a’r codau ymarfer cymwys.
Byddwn yn gwneud hynny wrth
- Seilio penderfyniadau busnes ehangach ar ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cadarn
- Cymryd camau i sicrhau bydd pob aelod staff, yn cynnwys pobl a gyflogir gan bartneriaid contract allanol, yn ymwybodol o, ac yn dilyn y Polisi hwn
- Adolygu ein perfformiad amgylcheddol yn rheolaidd a phennu targedau er mwyn sicrhau gwelliant parhaus
- Adrodd canlyniadau i bwyllgor ansawdd ac amgylchedd y Bwrdd, gan gyhoeddi arolwg perfformiad yn achlysurol.
Nigel Annett
Rheolwr Gyfarwyddwr
|