Mae Dŵr Cymru yn berchen llawer o dir ac yn gwmni sy’n cynnal prosesau a gweithgareddau sy’n gallu cael effaith uniongyrchol ar yr amgylchedd. Yn y cyd-destun hwnnw, mae wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth ar ei dir ei hun ac i sicrhau na fydd ei weithgaredd yn cael effaith andwyol ar lefelau bioamrywiaeth mewn afonydd a’r môr.
Rydym wedi datblygu polisi clir sy’n disgrifio’n dulliau o drafod Bioamrywiaeth ac wedi cyhoeddi Arolwg Bioamrywiaeth trafod ein gwaith yn y maes yn fwy manwl.
Mae Dŵr Cymru wedi cyfrannu’n uniongyrchol at gynnal bioamrywiaeth wrth wella ansawdd y dŵr mae’n arllwys i afonydd a’r môr. Un ffactor bwysig yn y broses o wella cynefinoedd morol a dŵr croyw yw’r buddsoddiad mawr mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff ac i wella gorlifiadau carthffosiaeth cyfunol dros y 10 mlynedd diwethaf.
Byddwn yn targedu buddsoddiad ym meysydd allweddol: sef gwella ansawdd dŵr a ryddheir o’n gweithfeydd trin dŵr gwastraff; diogelu afonydd a’r arfordir rhag llygredd yn ystod stormydd a sicrhau fod ein prosesau’n gweithio heb effeithio cymunedau lleol yn ormodol.
Mae ein sefyllfa fel perchennog tir a gwarchodwr rhai o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf y wlad yn fater pwysig iawn i ni fel cwmni. Byddwn yn parhau i atal neu isafu effaith amgylcheddol ein gweithgareddau a, ble’n bosibl, yn uchafu’r cyfleoedd i gynnal a gwella bywyd natur. Gyda 60% o’n tir yn bwysig yn nhermau cadwraeth a bioamrywiaeth y wlad gyfan, a’n rhaglen buddsoddi cyfalaf yn parhau, rydym yn benderfynol o reoli gwaith ac adnoddau’r cwmni yn gyfrifol er lles cenedlaethau’r dyfodol.