RYDYCH YMA > Home > Household customers > Problems paying > Welsh Water Assist

Click here for English version

Clic yma i danysgrifio i RSS

Cymorth Dŵr Cymru

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058

Cynllun yn rhoi cymorth ariannol i gartrefi ar incwm isel, gyda theuluoedd mawr neu gyflwr meddygol yn galw am ddefnydd dŵr uchel, wrth gyfyngu costau dŵr i £114 a charthffosiaeth £114. Mae’r adran hon yn esbonio’r cynllun ac yn dangos sut i wneud cais.

Pwy sy’n gymwys?

Cyfeiriwch at y siart llif syml i weld os yn gymwys. Efallai bydd modd gwneud cais os bydd aelod o’r cartref yn derbyn un o’r budd-daliadau/credydau treth dilynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Chwilio Gwaith ar sail incwm
  • Budd-dal Treth Gyngor (nid un deiliad neu ad-daliad anabledd)
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth & Cymorth ar sail incwm
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Plant (nid yr elfen deuluol)
  • Credyd Treth Gwaith.

Yn ogystal, un ai:
Derbyn Budd-dal Plant ar gyfer tri neu fwy o blant o dan 19 yn byw yn yr un cyfeiriad ac yn dal mewn addysg amser llawn.

Neu:

Chi neu unrhyw aelod o’r cartref yn dioddef o un o’r cyflyrau meddygol hyn, sy’n galw am ddefnydd dŵr ychwanegol sylweddol:

    Cyflyrau Meddygol Cymwys
  • Anymataledd
  • Colitis briwiol
  • Digroeniad (colli croen sych)
  • Problem arennol – yn galw am ddialysis yn y cartref (oni fydd fydd awdurdod lleol yn cyfrannu at y costau dŵr)
  • Mandyllau abdomenol
  • Clefyd Crohn
  • Afiechyd ble mae’r croen yn diferu (ecsema, psoriasis, wlser ar wythïen chwyddedig)
  • Cyflwr meddygol arall yn galw am ddefnydd dŵr ychwanegol sylweddol

Gellir derbyn cyflyrau meddygol eraill os yn galw am ddefnydd dŵr ychwanegol sylweddol ac yn destun tystysgrif wedi’i harwyddo gan feddyg neu swyddog meddygol cofrestredig.

    Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun:
  • Os oes pwll nofio gennych gyda chynhwysedd dros 10,000 litr
  • Os yn dyfrio’r ardd gydag offer (nid pibell llaw), megis taenellwr neu system ddyfrio.

Gwneud cais?

  • Os am dderbyn ffurflen gais yn eich cyfeiriad clic yma – nodwch eich manylion personol yn rhan 1 o’r ffurflen ac yna dewis Cymorth Dŵr Cymru (Welsh Water Assist) ar y dudalen cyhoeddiadau.
  • Llwytho ac argraffu ffurflen gais a’i hanfon atom, ynghyd â’r dogfennau angenrheidiol at:
    Dŵr Cymru Welsh Water, Rhadbost SWC 5253, CAERDYDD CF3 5GY
  • Galw ni ar 0800 052 0145 a gofyn am ffurflen gais

 

Sylwch: Ni fydd cwsmeriaid Cymorth Dŵr Cymru sy’n symud cartref yn gallu trosglwyddo’r cynllun yn otomatig i’r cyfeiriad newydd. Bryd hynny, bydd angen:

  • Llofnodi datganiad yn cadarnhau nad yw’r amgylchiadau wedi newid ac felly’n dal yn gymwys i dalu’r prisiau hyn yn unol â’r asesiad gwreiddiol, neu
  • Ailymgeisio, os bydd yr amgylchiadau wedi newid.

 

 

 

corner

Further information

Cod ymarfer er casglu biliau heb eu talu gan gwsmeriaid preswyl

Cod ymarfer er casglu biliau heb eu talu

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 160kb

Prisiau cwsmeriaid bregus

Cymorth Dŵr Cymru

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 190kb

Cynllun prisiau

Cynllun prisiau

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 173kb

Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Gwasanaethau ychwanegol

Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

Ffeil: 508kb