RYDYCH YMA > Hafan > Llyfrgell > Hysbyseb berwi dŵr gwreiddiol - Cryptosporidiwm

Hysbyseb berwi dŵr gwreiddiol - Cryptosporidiwm

corner

Gwasanaethau dŵr ac argyfwng

  • Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0130

28.08.08 | Gofyn cwsmeriaid Dŵr Cymru yn ardal Bangor i ferwi dŵr tap

Heno cyhoeddodd Dŵr Cymru hysbysiad berwi dŵr ffurfiol ar gyfer pob cwsmer yn ardaloedd Bangor, Porthaethwy a Llanfair PG yn y gogledd. Mae pentref Capel Curig hefyd yn rhan o’r ardal berthnasol. Rydym yn cynghori cwsmeriaid yn yr ardaloedd hyn i ferwi dŵr tap a ddefnyddir i yfed neu baratoi bwyd tan i ni hysbysu ymhellach. Bydd yr hysbysiad yn effeithio oddeutu 45,000 o bobl. Nodir y cymunedau ar y rhestr amgaeedig.

Cyflenwir dŵr tap yr ardal gan waith trin Mynydd Llandygai Dŵr Cymru. Mae’r gwaith yn derbyn dŵr o gronfeydd Marchlyn Bach a Ffynnon Llugwy. Yn ogystal, mae’r gwaith trin sy’n cyflenwi Capel Curig hefyd yn defnyddio Ffynnon Llugwy fel ffynhonnell dŵr crai.

Mae ein rhaglen samplo rheolaidd wedi datgelu cynnydd yn nifer yr wyau cryptosporidiwm ac mae hynny wedi peri i ni gymryd y mesur diogelwch yma er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd rhaid i ni gymryd llawer o samplau dŵr pellach, felly ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod pryd byddwn yn gallu codi’r hysbysiad berwi dŵr.

Mae cryptosporidiwm yn barasit bach iawn yn bresennol mewn cyrff pobl ac anifeiliaid sy’n gallu achosi salwch dolur rhydd dros dro. Bydd berwi’r dŵr yn lladd yr wyau cryptosporidiwm. Hyd yma nid ydym yn gwybod pam mae lefel y cryptosporidiwm wedi cynyddu. Dylai pobl yn dioddef o salwch gastroberfeddol ddilyn arferion hylendid da a gofyn am gyngor meddygol os yn poeni am y sefyllfa.

Mae pum ffordd sylfaenol o reoli dolur rhydd a chwydu er mwyn helpu i rwystro clefyd rhag lledu.

  1. Golchi dwylo’n ofalus yw’r un mesur diogelwch pwysig. Sef golchi dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes, a’u sychu. Peidiwch â rhannu tywelion.
  2. Defnyddio menig wrth drafod deunyddiau brwnt gan bobl sâl. Golchi dillad budr a lliain gwely ar raglenni poeth eich peiriant.
  3. Os yn edrych ar ôl rhywun yn dioddef o gastro-enteritis, diheintio seddi a dolenni toiledau, tapiau dŵr a dolenni drysau bob diwrnod ac ar ôl eu defnyddio. Defnyddio deunyddiau glanhau’n cynnwys cannydd, gan ychwanegu dŵr yn ôl y cyfarwyddiadau.
  4. Cynnal safonau hylendid personol da ac wrth baratoi a gweini bwyd.
  5. Os yn dioddef o gastro-enteritis, peidio dychwelyd i ysgol neu waith tan i chi fod heb symptomau am 48 awr. Peidiwch ag ymweld â chleifion mewn ysbytai neu mewn cartrefi gofal hir dymor. Er bydd llawer o bobl yn teimlo’n well yn gynharach, bydd salwch yn gallu lledu os yn dychwelyd i ysgol neu waith o fewn 48 awr o’r symptom olaf.

Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori meddygon teulu yn yr ardal i hysbysu unrhyw achosion dolur rhydd ac i gymryd samplau i’w profi am heintiau gastroberfeddol megis cryptosporidiwm.

Bydd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus yn monitro lefelau salwch yn yr ardal yn ofalus.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynllun i ddiweddaru gwaith trin dŵr Mynydd Llandygai, gyda’r gwaith adeiladu’n debyg o ddechrau ar y safle yn ystod gwanwyn 2009. Bydd y buddsoddiad hwn yn rhan o gynllun estynedig i wella gweithfeydd trin dŵr y gogledd. Bydd y gwaith trin dŵr newydd yn gallu delio â’r cryptosporidiwm yn y cronfeydd sy’n gwasanaethu gwaith trin Mynydd Llandygai a gostwng yr angen am hysbysiadau berwi dŵr yn y dyfodol.

Byddwn yn afon llythyron at gwsmeriaid a effeithir gan yr hysbysiad berwi dŵr ac yn cysylltu ymhellach pan fyddwn yn gallu codi’r gwaharddiad.

Mae’n ddrwg iawn gennym am yr anghyfleustra, ond ein blaenoriaeth yw diogelu iechyd y cyhoedd. Byddwn hefyd yn cysylltu â chwsmeriaid ar ein cofrestr anghenion arbennig. Am wybodaeth bellach galwch 0800 052 0130.

Diwedd
Paratowyd y datganiad hwn gan Dŵr Cymru Welsh Water, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn.

Ardaloedd perthnasol

Bangor
Y Felinheli, ochr Bangor (marina)
Biwmares
Bethesda
Capel Curig
Cwm y Glo
Deiniolen
Dinorwig
Gaerwen
Gallt y Foel
Gerlan
Llanddaniel
Llanddeiniolen
Llandygai
Llandegfan
Llanfaes
Llanfair PG
Llangoed
Menai bridge
Mynydd Llandegai
Pentir
Rachub
Rhiwlas
Sling
Talybont
Tan y Foel
Tregarth



Cwestiynau Cwestiynau ac Atebion


Question

Pam oes angen berwi dŵr yfed?

Answer

Datgelwyd lefelau Cryptosporidiwm uwch yn y dŵr o waith trin Mynydd Llandygai. Mae’r parasit Cryptosporidiwm yn gallu achosi salwch cryptosporidiosis,ond bydd berwi’r dŵr yn lladd y parasit. Felly, rydym yn cynghori pobl i ferwi dŵr er diogelwch.

Question

Berwi’r dŵr am faint o amser?

Answer

Dim ond ei ddwyn i’r berw. Bydd defnyddio tegell trydan yn iawn.

Question

Pryd fyddwch yn codi’r hysbysiad berwi dŵr?

Answer

Pan fyddwn yn ystyried bydd ansawdd y dŵr yn ôl i’r safon arferol am 10 diwrnod yn olynol.

Question

Pam nad yw Dŵr Cymru yn gallu gosod offer uwchfioled i ddiogelu’r dŵr fel yn y gorffennol?

Answer

Byddwn yn ymchwilio hynny er mwyn gweld os bydd modd darparu triniaeth ychwanegol.

Question

Dyma’r ail dro i chi ofyn i ni ferwi dŵr o fewn cyfnod o dair blynedd. Onid oeddech wedi taclo’r broblem ar ôl achos 2005?

Answer

Mae’r broblem y tro hwn yn gysylltiedig â chronfa Mynydd Llandygai. Yn 2005, cododd y broblem yng nghronfa Cwellyn. Mae rhai cartrefi’n derbyn cyflenwad sy’n gyfuniad o ddŵr o’r ddwy gronfa. Felly, er bod ffynhonnell y broblem yn wahanol, effeithiwyd cartrefi sy’n derbyn y fath ddŵr yn y ddau achos. Nid yw’r achos hwn wedi effeithio cartrefi sy’n derbyn dŵr o gronfa Cwellyn yn unig.

Question

Fydd Dŵr Cymru yn talu iawndal?

Answer

Byddwn. Rhagwelir bydd yr hysbysiad berwi dŵr mewn grym am wythnos, felly byddwn yn gwneud taliad o £25 i bob cwsmer perthnasol am yr anghyfleustra o orfod berwi’r dŵr, gan drefnu taliad uniongyrchol ar ôl codi’r gorchymyn. Byddwn yn hysbysu pawb pan fyddwn mewn sefyllfa i godi’r gorchymyn, ar ôl cymryd penderfyniad ar y cyd â’r awdurdodau iechyd cyhoeddus.

Question

Beth yw cryptosporidiosis?

Answer

cryptosporidiosis yn salwch sy’n achosi dolur rhydd mewn pobl ac anifeiliaid, oherwydd presenoldeb parasit bach iawn, Cryptosporidiwm. Mae’n gyffredin o fewn anifeiliaid fferm ac anwes, a drosglwyddir drwy eu gwrtaith. Mae’n bresennol yn yr amgylchedd ar lefelau isel, ond bydd y lefelau’n codi yn y gwanwyn, yn arbennig pan fydd glaw trwm yn golchi’r parasit i mewn i’r tir, afonydd a llynnoedd. Mae hefyd yn gallu cael ei drosglwyddo drwy heintiad ymgarthol pobl.

Question

Pryd allai pobl ddisgwyl heintiad?

Answer

Fel arfer bydd cryptosporidiosis yn deor dros gyfnod o wythnos, felly os yn wynebu salwch ni fyddwn yn disgwyl ei weld eto. Bydd unrhyw achosion yn codi dros y pythefnos nesaf.

Question

Sut fydd cryptosporidiosis yn lledu?

Answer

Mae’n gallu lledu i bobl drwy amryw lwybrau. Bydd cysylltiadau person i berson yn achosi problemau os na fydd pobl yn cymryd gofal gyda hylendid personol. Mae cysylltu ag anifeiliaid fferm (ac anifeiliaid anwes sâl) yn gallu creu risg o heintiad. Mae cyflenwadau dŵr yfed yn gallu bod yn agored i heintiad Cryptosporidiwm, a gall yr heintiad ledu mewn dŵr yfed.

Question

Pa fesurau sy’n gallu diogelu rhag cryptosporidiosis?

Answer

Mae hylendid personol yn bwysig iawn, yn arbennig os bydd rhywun yn dioddef o ddolur rhydd yn y cartref, neu os yn trin anifeiliaid fferm neu anwes sy’n sâl. Mae golchi dwylo’n bwysig ar ôl mynd i’r toiled, neu os yn dod i gysylltiad â photensial ffynonellau heintiad (anifeiliaid fferm neu anwes sâl, neu bobl gyda dolur rhydd). Mae dilyn safonau hylendid da’n bwysig iawn wrth drafod bwyd.

 

Mae cyngor hylendid ar wefannau Dŵr Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cymru

 

Bydd Dŵr Cymru yn ysgrifennu’n uniongyrchol at bob cwsmer yn yr ardaloedd perthnasol i’w hysbysu o’r mesurau diogelwch.

Question

Beth am ddŵr potel?

Answer

Ni fydd angen berwi dŵr potel, ac eithrio pobl gyda systemau imiwn diffygiol (sef y drefn arferol).

Question

Beth am lanhau dannedd, ciwbiau rhew, ymolchi a golchi llestri?

Answer

Glanhau dannedd – berwi dŵr a’i adael i oeri.

 

Rhew - os byddwch wedi creu ciwbiau rhew cyn derbyn yr hysbysiad, taflwch nhw i ffwrdd. Gallwch wneud rhew o ddŵr wedi’i ferwi a’i oeri neu ddŵr potel.

 

Ymolchi ac ymdrochi – bydd yn saff i ymolchi a chymryd bath yn y dŵr: llwybr yr heintiad yw wrth lyncu’r dŵr.

 

Golchi llestri - golchi llestri gyda dŵr wedi’i ferwi os yn bosibl, ond mae’n debyg bydd yn iawn i rinsio llestri wedi’u golchi mewn dŵr wedi’i ferwi a’i oeri, cyn eu sychu. Yn achos peiriannau golchi llestri bydd angen defnyddio’r rhaglen dŵr poeth.
Question

Oes modd defnyddio ffilterau dŵr neu dabledi puro dŵr yn hytrach na berwi?

Answer

Peidiwch â dibynnu ar ffilterau oni fyddant wedi’u dyfeisio i waredu micro-organebau (hynny yw, nid gwella blas y dŵr yn unig) ac yn ffilterau 1μm absoliwt. Bydd y manylion yn nhaflen y cynhyrchydd. Mae cetris ffilter preswyl yn gallu trapio heintiadau, ac felly bydd angen cymryd gofal wrth eu gwaredu. Ni fyddwn yn argymell defnyddio tabledi puro dŵr yn lle berwi dŵr.

Question

Beth yw rôl yr awdurdodau iechyd cyhoeddus yn yr achos?

Answer

Bydd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, swyddogion iechyd amgylcheddol, byrddau iechyd lleol a’r cyflenwyr dŵr yn cydweithio i isafu unrhyw risgiau i’r cyhoedd, gyda’r nod o godi’r gwaharddiad cyn gynted â phosibl.

Question

Os byddaf yn mynd yn sâl?

Answer

Bydd yr heintiad fel arfer yn clirio o’i hun mewn person iach, ond gall gymryd sawl diwrnod. Holwch eich meddyg teulu os bydd y dolur rhydd yn parhau neu os yn poeni am y sefyllfa. Dylid hefyd cyfeirio at feddyg yn achos plant ifanc iawn a phobl hŷn a bregus. Yn gyffredinol, awgrymir eich bod yn yfed mwy os yn dioddef o ddolur rhydd.

Question

Oes unrhyw un yn wynebu risgiau arbennig o cryptosporidiosis.

Answer

Bydd pobl gyda systemau imiwn diffygiol yn wynebu risg o salwch difrifol neu hir dymor. Gallant gynnwys:

 

  • Cleifion HIV gyda chyfrif CD4 llai na 200

  • Pobl yn cymryd steroidau cryf, yn cyfateb i 40mg neu fwy o prednisolone y dydd, am o leiaf un wythnos o fewn y tri mis diwethaf (dos cyfatebol i blant - 2 mg/cg pwysau corff per diwrnod am un wythnos o fewn y tri mis diwethaf, neu 1 mg/cg/dydd am o leiaf un mis o fewn y tri mis diwethaf)

  • Cleifion wedi derbyn trawsblaniad mêr, celloedd stem neu organ

  • Plant gyda diffyg imiwnedd cyfun difrifol

  • Cleifion gyda diffygion T-cell arbennig, megis diffyg ligand CD40 (Hyper IgM Syndrome)

  • Weithiau bydd cleifion sy’n derbyn cemotherapi canser gyda diffyg Tcell – dylech holi eich meddyg am hynny.

 

Dylai’r bobl hyn ferwi dŵr cyn ei ddefnyddio ar bob amser, hyd yn oed dŵr potel. Holwch eich meddyg am eich sefyllfa chi. 

Question

Unrhyw driniaeth ar gyfer cryptosporidiosis?

Answer

Nid oes triniaeth effeithiol ar gyfer cryptosporidiosis, felly dyna pam byddwn yn cynghori pobl gyda phroblemau system imiwn i osgoi’r posibiliad o heintiad os yn bosibl. Fel arfer bydd heintiad yn clirio ei hun mewn corff person iach, ac fel arfer ni chymeradwyir cymryd gwrthfiotig. Yn gyffredinol, mae’n werth yfed mwy pan fyddwch yn dioddef o ddolur rhydd.

 

corner

Gwybodaeth bellach

NEWYDDION DIWEDDARAF - 18.09.08

Y mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i ddefnyddio dwr tap fel yn ôl eu harfer
Clic yma i ddarllen mwy...

NEWYDDION - 11.09.08

Gwaith Trin Dŵr Mynydd Llandygai
Clic yma i ddarllen mwy...

NEWYDDION - 05.09.08

Dŵr Cymru yn gosod offer newydd yng ngwaith trin dŵr Mynydd Llandygai.
Clic yma i ddarllen mwy...

NEWYDDION - 02.09.08

Parthed: Rhybuddion Gorchymyn i Ferwi Dŵr.
Clic yma i ddarllen mwy...

Rhaid berwi eich dŵr

RHAID BERWI EICH DŴR

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 152kb


CWESTIYNAU CYFFREDIN

Clic yma i ddarllen mwy...

LLYTHYR I GWSMERIAID

Clic yma i ddarllen mwy...

GWYBODAETH AR GYFER CYNHYRCHWYR BWYD

Cyngor Sir Fôn a Chyngor Gwynedd