corner

Newyddion / Datganiadau i'r wasg

DCWW Logo

03/10/2008

Y mae Dŵr Cymru yn lansio ‘Man Gwyrdd Cymru’

Y mae ar Gymru angen mwy o ddraenio naturiol i leihau llifogydd carthffosydd

 

Y mae Dŵr Cymru Welsh Water heddiw yn lansio ‘Man Gwyrdd Cymru’ – menter i hyrwyddo draenio naturiol i gynorthwyo’r rhwydwaith carthffosiaeth i ymdopi’n well gyda newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd mewn trefoli er mwyn gostwng digwyddiadau o lifogydd carthffosydd.

 

Y mae’r cwmni’n ymgysylltu â phartneriaid drwy Gymru i gyd i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y gellir ei wneud i leihau’r risg o lifogydd carthffosydd oherwydd stormydd glaw llifeiriol a’r cyfaint cynyddol o ddŵr wyneb sy’n llifo ymaith o doeau a mannau palmantog.  

 

Y mae’n ymddangos bod yr hinsawdd yn newid, gyda mwy o law mawr yn syrthio ar dirwedd drefol o ffyrdd, meysydd parcio, adeiladau a gerddi ffrynt palmantog, tirwedd sy’n cael ei datblygu’n gynyddol.  Gyda llai o fannau gwyrdd ar gyfer draenio, y mae dŵr glaw yn cael ei sianeli fwyfwy i mewn i garthffosydd cyhoeddus, gan weithiau’u gorlwytho hwynt ac achosi llifogydd carthffosydd a digwyddiadau o lygredd.

 

Fe ddywedodd rheolwr gyfarwyddwr Dŵr Cymru Welsh Water, Nigel Annett: “Y mae gennym raglen fuddsoddi fawr iawn i wella’r rhwydwaith dŵr gwastraff i leihau’r risg o lifogydd dŵr storm.  Ond nid yw hon yn broblem y gellir ei datrys gan Dŵr Cymru Welsh Water ar eu pennau’u hunain.  Nid yr ateb yw cynyddu maint ein holl garthffosydd, gan y byddai hyn yn cael effaith ddifrifol ar filiau – gan gostio tua £10,000 y cwsmer.  Fe fyddai hefyd yn achosi tarfu anferth ar gyfer dim ond budd dros dro.  Y mae pwmpio dŵr glaw drwy’n rhwydwaith dŵr gwastraff hefyd yn defnyddio llawer o ynni, ac y mae hynny’n rhywbeth yr hoffem ei osgoi i gynorthwyo i leihau’n hôl troed carbon.

 

“Yr ydym yn bwriadu gwario tua £800 miliwn erbyn 2015 ar welliannau angenrheidiol i’n system dŵr gwastraff, ond fe fydd ar hyn angen ei ategu gan newid yn y ffordd yr ydym yn creu ac yn rheoli’r amgylchedd adeiledig.  I roi graddfa’r mater mewn cyd-destun, yn Llundain y mae yna ardal sy’n ddwy waith ar hugain o faint Hyde Park wedi’i phalmantu ers 1945 - y mae cymhwyso’r gyfradd hon i Gaerdydd yn unig yn golygu bod ardal sy’n gyfwerth â 300 o gaeau Stadiwm y Mileniwm wedi’i phalmantu.  Hynny yw, y mae yna adeiladu wedi bod ar laswelltir a mannau agored, gyda chynnydd enfawr canlynol mewn dŵr wyneb yn llifo i’r rhwydwaith carthffosiaeth.  Ein hamcan hirdymor yw cael systemau draenio mewn ardaloedd datblygedig sydd, cyn belled ag y bo’n ymarferol, yn dynwared draenio naturiol i fannau gwyrdd.”

 

Fel rhan o’r fenter Man Gwyrdd Cymru, y mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cysylltu gyda llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, cynllunwyr, datblygwyr ac eraill sy’n llunio penderfyniadau i ymofyn cefnogaeth ar gyfer newid deddfwriaethol ac er mwyn mabwysiadu datrysiadau cynaliadwy ar gyfer draenio ar gyfer tai newydd a datblygiadau eraill.  Y mae’r cwmni wedi rhoi arweiniad ymysg diwydiant dŵr y Deyrnas Unedig drwy gomisiynu astudiaethau ar raddfa fawr yng Nghymru fel rhan o’i Strategaeth Rheoli Dŵr Wyneb.

 

Gan fwrw sylw ar strategaeth Dŵr Cymru Welsh Water, y mae Richard Ashley, Athro dŵr trefol ym Mhrifysgol Sheffield, yn egluro: “Y mae Dŵr Cymru Welsh Water yn weledigaethol o ran mynd i’r afael â’r mater hwn ac y maent yn ymdrin â’r mater mewn ffordd wahanol i weddill diwydiant dŵr y Deyrnas Unedig – efallai oherwydd eu model busnes unigryw ble nad oes ganddynt gyfranddalwyr i’w gwasanaethu.  Y maent yn sylweddoli na allwn ni mwyach wneud pethau yn yr hen ffordd ac y maent yn edrych ar sut y gallant reoli dŵr storm ble y mae’n glanio ar y wyneb.”

 

Fe wnaeth Mr Annett barhau ac meddai, “I’w roi yn syml iawn, y mae arnom angen mwy o fannau gwyrdd yn ein hardaloedd trefol fel y gellir ymdrin â mwy o ddŵr glaw yn fwy effeithiol.  Yn ogystal â’r ymagweddiad technegol tuag at leihau llifoedd dŵr wyneb, fe all hefyd fod angen newid deddfwriaethol i ddeddfau cynllunio.  Er enghraifft, efallai y bydd arnom angen ystyried draenio trefol cynaliadwy mewn cynlluniau ar gyfer datblygiadau newydd.  Fe allai newid hefyd olygu y byddai’n rhaid i ddeiliaid tai gael caniatâd cynllunio cyn palmantu’u gerddi ffrynt i greu mannau parcio, sef gofyniad a ddaeth i rym yn Lloegr ar y 1af o Hydref, 2008.

 

Fe fydd y strategaeth rheoli dŵr wyneb sy’n cael ei datblygu yn darparu gweledigaeth hirdymor o ran sut y bydd Dŵr Cymru Welsh Water yn ymdrin â llifoedd dŵr wyneb am y bum mlynedd ar hugain nesaf.

 

Fe fydd yna gyfran uwch o wariant ar fesurau ataliol, yn hytrach nag ymateb i ddigwyddiadau.  Fe fydd gostwng cyfaint y llif i’r rhwydwaith yn cael ei wneud gan reoli’r system, fel nad yw’n cael ei ddewis yn awtomatig fel y llwybr gwaredu i ddŵr wyneb.  Fe wnawn ymdrechu i leihau’r ardal a gysylltir â’r system.

 

“Y mae Cymru yn arweinydd yn y Deyrnas Unedig o ran mynd i’r afael â’r broblem sylweddol hon, ac yr ydym eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Defnyddwyr Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Ein nod yw codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â phobl yn y mater hwn, oherwydd po gyntaf y gallwn weithredu’n effeithiol i gyfyngu ar ddŵr wyneb yn llifo, yna’r gorau oll y bydd hi dros yr hirdymor i bobl yn ein trefi a’n dinasoedd.  Cadw a chreu mannau gwyrdd yw’r cam cyntaf tuag at roi sylw i’r broblem amgylcheddol hon,” y dirwynodd Mr Annett i ben.

 

Mwy o wybodaeth ar gael trwy ddilyn y linciau canlynol:

 

Diwedd

 

Ymholiadau i swyddfa gwasg Dŵr Cymru Welsh Water ar 029 2055 6140.

 

Nodiadau i Olygyddion:

 

Yr oedd yr Athro Richard Ashley yn aelod o’r grŵp oedd yn cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod gwaith paratoi Adroddiad Pitt i’r cynnydd mewn digwyddiadau o lifogydd yn y Deyrnas Unedig.