09/02/2010

Dŵr Cymru'n ailstrwythuro er mwyn cyrraedd targedau effeithlonrwydd

Mae Dŵr Cymru am gychwyn ar y cynllun mwyaf i ailstrwythuro'r cwmni ers i Glas Cymru ei brynu a'i droi'n gwmni "nid-er-elw". Mae'n gwneud hynny er mwyn cyrraedd y targedau effeithlonrwydd llymaf a welodd erioed.

Bydd y terfynau prisiau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a bennwyd fis Tachwedd diwethaf gan reoleiddiwr y diwydiant dŵr, Ofwat, yn galluogi Dŵr Cymru i fuddsoddi £1.2 biliwn mewn cynlluniau ansawdd dŵr a gwelliannau eraill. Ond, yn ogystal, mae'n rhaid i Ddŵr Cymru sicrhau gostyngiad o 20 y cant yn ei gostau gweithredu o ddydd i ddydd fel y gall bil y cartref cyffredin ostwng £30 cyn chwyddiant.

Meddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Nigel Annett: "Ers ffurfio Glas Cymru yn 2001, rydym wedi cyflenwi gwasanaethau i'n cwsmeriaid trwy ddefnyddio cwmnïau blaenllaw ym maes gweithredu asedau dŵr a charthffosiaeth. Mae United Utilities a Kelda Water Services wedi helpu Dŵr Cymru i sicrhau gwelliant sylweddol yn ansawdd y gwasanaeth a gaiff ein cwsmeriaid.

“Ers 2001, mae United Utilities ac yna Kelda Water Services wedi ein helpu ni hefyd i ostwng ein costau gweithredu fwy nag y gwnaeth yr un cwmni dŵr a charthffosiaeth arall yn y diwydiant dŵr rheoleiddiedig yng Nghymru a Lloegr. Ond er mwyn sicrhau'r gostyngiadau angenrheidiol mewn prisiau dros y pum mlynedd nesaf, bydd raid i ni gymryd cam mawr arall tuag at fod yn fwy cost-effeithlon.

"Dros y naw mis diwethaf, cawsom drafodaethau maith gyda United Utilities a Kelda Water Services, trwy adolygiad pum mlynedd pris a perfformiad y contractau sydd gennym gyda’r ddau gwmni. Rydym yn sylweddoli ac yn gwerthfawrogi eu bod wedi gwneud ymdrechion sylweddol i ddiwallu ein gofynion. Fodd bynnag, ni fu modd cyrraedd cytundeb gyda'r naill gwmni na'r llall ar delerau parhau'r contractau am bum mlynedd arall.

"Yng ngoleuni hyn, rydym wedi dod i gytundeb gyda United Utilities y bydd eu staff yn trosglwyddo i Ddŵr Cymru o fewn dau neu dri mis, neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny. Ni chafwyd cytundeb gyda Kelda Water Services ac mae'r trafodaethau'n parhau. Yn y cyfamser, bydd Kelda Water Services yn parhau i redeg ein hasedau dŵr gwastraff o dan delerau eu contract gyda Dŵr Cymru.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau gostyngiad o 20 y cant yn ein costau rhedeg o ddydd i ddydd.  Fe wnawn hyn trwy fanteisio ar y buddsoddiad mawr a wnaethom yn ddiweddar yn y dechnoleg newydd, trwy gael gwared ag unrhyw ddyblygu gwaith ar lefel rheolwyr, a thrwy fuddsoddi mewn "ynni gwyrdd" a phrosesau i leihau costau trydan. Mae hyn yn golygu cryn dipyn o wariant i'r cwmni, sef rhan o'r rhaglen fuddsoddi gwerth £1.2 biliwn a fwriedir i wella gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf.

"Yn ogystal, dros y pum mlynedd nesaf, bydd angen tua 300 yn llai o bobl i gyflenwi gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff i gwsmeriaid Dŵr Cymru. Bwriadwn gydweithio'n agos â'n staff a'n cydweithwyr yn yr undebau llafur i sicrhau'r gostyngiad hwn yn raddol trwy gyfuniad o ymddeol, trosiant staff naturiol ac ymadael gwirfoddol.

"Bydd y newid hwn yn un o sawl her y byddwn yn eu hwynebu dros y pum mlynedd nesaf ond ein blaenoriaeth ar hyd yr amser fydd parhau â'r dasg hanfodol o sicrhau gwasanaethau diogel a dibynadwy ar gyfer ein holl gwsmeriaid a gwarchod yr amgylchedd," meddai Mr Annett.

Ers 2001, bu Dŵr Cymru'n eiddo i Glas Cymru sy'n gwmni "nid-er-elw". Mae'r cwmni'n cyflenwi gwasanaethau dŵr yfed a glanweithdra i dros dair miliwn o bobl yng Nghymru a rhai ardaloedd dros y ffin yn Lloegr.

Diwedd

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg Dŵr Cymru ar 02920 556140.

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Ffurfiwyd Glas Cymru ym mis Ebrill 2000 yn unswydd er mwyn prynu Dŵr Cymru. Mae'n 'gwmni cyfyngedig trwy warant' ac fe'i cofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Nid oes cyfranddalwyr gan Glas Cymru. Yn hytrach, mae gan yr Aelodau swyddogaeth bwysig o ran llywodraethu corfforaethol ond nid ydynt yn derbyn buddrannau ac nid oes ganddynt fuddiant ariannol arall yn y Cwmni. Mae'r strwythur corfforaethol hwn yn sicrhau bod yr holl arian sydd dros ben yn cael ei gadw a'i ailfuddsoddi er budd Dŵr Cymru a'i gwsmeriaid.
  2. Mae cyfansoddiad Glas Cymru yn golygu mai ei unig bwrpas yw ariannu asedau dŵr ym maes gweithredu Dŵr Cymru a rheoli busnes Dŵr Cymru fel bod gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth o safon uchel yn cael eu cyflenwi am y gost isaf i'r cymunedau y mae Dŵr Cymru'n eu gwasanaethu. Ni chaiff Glas Cymru arallgyfeirio i weithgareddau masnachol anghysylltiedig.
  3. Ar 26 Tachwedd 2009, cyhoeddodd rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, Ofwat, ei Benderfyniad Terfynol ynglŷn â therfynau prisiau, safonau gwasanaeth a lwfansau buddsoddi ar gyfer y cyfnod hyd at 2015. Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, penderfynodd Dŵr Cymru beidio ag apelio yn erbyn y penderfyniad i'r Comisiwn Cystadlu.
  4. Ar gyfartaledd, bydd biliau domestig ein cwsmeriaid dŵr a charthffosiaeth yn gostwng tua £30, cyn chwyddiant, dros y cyfnod hyd at 2015. Fodd bynnag, bydd yr effaith ar filiau cwsmeriaid unigol yn amrywio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bwriadwn gynnal rhaglen buddsoddi cyfalaf gwerth tua £1,200 miliwn – sy'n cyfateb i dros £1,000 i bob cartref.