Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cynnig cymorth
gyda phroblemau o ran talu biliau
Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi dechrau anfon biliau blynyddol i bron miliwn o gwsmeriaid cartrefi – ac maent yn annog pobl sy’n wynebu anhawster talu i gysylltu â hwy yn ddi-oed.
Mae’r cwmni’n amlygu ystod o gymorth sydd ar gael i gwsmeriaid, ac mae’n gofyn i’r sawl sy’n rhagweld problem gyda thalu i alw am gyngor.
Yn 2010–2011, fe fydd y bil cyfartalog cyffredinol i gartrefi ar gyfer cwsmeriaid Dŵr Cymru Welsh Water yn gostwng un y cant i £398.00. Fodd bynnag, fe fydd biliau’n amrywio yn ôl amgylchiadau unigol. Mae biliau cyfartalog cyffredinol i gwsmeriaid Dŵr Cymru yn mynd i ostwng £30 erbyn 2015.
Fe ddywedodd y cyfarwyddwr cyllid, Chris Jones, fod gan Dŵr Cymru amryw o dariffau cymorth i gwsmeriaid, sydd yn unigryw yn niwydiant dŵr y Deyrnas Unedig ac sy’n darparu cymorth i bobl a all brofi anhawster gyda thalu’u taliadau dŵr. Mae’r rhain yn cynnwys taliadau wedi’u capio ar gyfer cwsmeriaid incwm isel, ac ystod o ddulliau casglu sy’n cynnwys disgownt am daliad uniongyrchol o fudd-daliadau.
Fe eglurodd, “Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn ni i gynorthwyo pobl, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd galed presennol. Fe wyddom nad yw’n hawdd i lawer o bobl sy’n talu’u biliau dŵr ar incymau cyfyngedig. Dyna pam ein bod eisiau cynnig cyngor a chymorth cyn gynted â bod modd. Mae gennym ystod o dariffau a dulliau talu ar gael, sydd wedi’u cynllunio i fod yn addas ar gyfer anghenion cwsmeriaid unigol.
“Gall unrhyw un sydd eisiau cyngor ynglŷn â pha opsiynau yw’r gorau iddynt ymweld a’n gwefan sy’n darparu cyngor a gwybodaeth defnyddiol ynglŷn â thalu neu ein ffonio ar 0800 052 6058. Fe wna cwsmeriaid ganfod y gwnawn bopeth y gallwn i gynorthwyo.”
Yn ystod y cyfnod hyd at 2015, fe fydd Dŵr Cymru, sydd ym mherchnogaeth Glas Cymru ac sy’n cael ei weithredu ar sail ‘nid-er-elw’, yn buddsoddi £1.2 biliwn mewn parhau i wella’u gwasanaethau – sy’n cynrychioli mwy na £1,000 i bob cwsmer.
Meddai’r cyfarwyddwr cyllid, Chris Jones, gan barhau, “Mae’n hanes o fuddsoddiad enfawr yn ein hisadeiledd wedi cyflawni gwell lefelau gwasanaeth ym mhob agwedd o’n swyddogaethau dŵr, carthffosiaeth a gwasanaethau i gwsmeriaid. Rydym yn un o’r cwmnïau dŵr sydd gyson yn perfformio orau yng Nghymru a Lloegr.
“Rydym yn anfon un bil i’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid bob blwyddyn, ac mae hynny’n golygu amser prysur i’n staff bilio a gwasanaethau cwsmeriaid. Os bydd ar gwsmeriaid angen ein galw, cofiwch, os gwelwch yn dda, mai hwn yw’n hamser prysuraf o’r flwyddyn, ond rydym bob amser yn anelu at ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid, drwy gydol y flwyddyn.”
Mae’n ‘gwmni nid-er-elw’ sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes gan Dŵr Cymru gyfranddalwyr, ac mae unrhyw wargedion ariannol yn cael eu hail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid.
