RYDYCH YMA > Hafan > Newyddion > Cyflwyniad

Newyddion / Datganiadau i’r wasg

corner

Sut i gysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 0145

Canlyniad chwilio

03/10/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water am wella Traeth Porthcawl

Y mae Dwr Cymru Welsh Water i fod i ddechrau gwaith ar brosiect gwerth £750,000 i newid y bibell ollwng i’r mor ar Draeth Glan y Mor (Traeth Seafront) ym Mhorthcawl.

03/10/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn lansio ‘Man Gwyrdd Cymru’

Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw yn lansio ‘Man Gwyrdd Cymru’ – menter i hyrwyddo draenio naturiol i gynorthwyo’r rhwydwaith carthffosiaeth i ymdopi’n well gyda newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd mewn trefoli er mwyn gostwng digwyddiadau o lifogydd carthffosydd. Y mae’r cwmni’n ymgysylltu a phartneriaid drwy Gymru i gyd i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y gellir ei wneud i leihau’r risg o lifogydd carthffosydd oherwydd stormydd glaw llifeiriol a’r cyfaint cynyddol o ddwr wyneb sy’n llifo ymaith o doeau a mannau palmantog.

01/10/2008

Y mae yna arddangosfa gyhoeddus wedi’i chynllunio ar gyfer Porthcawl

Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn cynnal arddangosfa gyhoeddus yr wythnos nesaf i egluro cynllun gwerth £1.4 miliwn i leihau’r risg o lifogydd o’n carthffosydd i eiddo yn y dref. Fe fydd y cynllun i wella perfformiad y rhwydwaith dwr gwastraff yn golygu newid 750 o fetrau o garthffosydd. Fe fydd hyn yn cynyddu cynhwysedd ar y rhwydwaith ac yn lleihau’r risg o lifogydd yn ystod amgylchiadau tywydd storm.

01/10/2008

Y mae cynllun Pontardawe yn mynd i wella ansawdd dwr afon

Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn dechrau ar gynllun gwerth £340,000 i wella perfformiad rhwydwaith dwr gwastraff Pontardawe a dod a budd i ansawdd dwr afon yn yr ardal.

26/09/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn paratoi ar gyfer buddsoddiad gwerth £100 miliwn yng Ngogledd Cymru

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn paratoi i fuddsoddi mwy na £100 miliwn yng Ngogledd Cymru i uwchraddio tri ar ddeg (13) o weithfeydd trin dwr yfed sy’n cyflenwi bron 500,000 o bobl. Fe fydd y buddsoddiad yn mynd i’r afael ag ystod o faterion i wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Y mae’n cynnwys gwaith adnewyddu sylweddol ar weithfeydd trin dwr, gyda gosod cyfarpar newydd i roi hwb i ansawdd ac i ddarparu diogelwch ychwanegol i gyflenwad dwr.

24/09/2008

Darganfyddwch hanes cuddiedig Llyn Brenig

Ddydd Sul, y 5ed o Hydref, pam na ddewch yn dditectif amser am y diwrnod a’i hanelu hi am Lyn Brenig i ddatgloi hanes cuddiedig yr ardal gyda Cheidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water?

23/09/2008

Y mae’r Groeslon i dderbyn hwb amgylcheddol

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £500,000 mewn cynllun, a fydd yn darparu gwelliannau amgylcheddol i ardal Y Groeslon ger Caernarfon.

23/09/2008

Y mae Glan Yr Afon am elwa oddi wrth gynllun lliniaru llifogydd

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £250,000 mewn cynllun, a fydd yn lliniaru’r perygl o lifogydd i gartrefi lleol yng Nglan Yr Afon ger Llanasa.

15/09/2008

Rhostryfan i elwa oddi wrth gynllun lliniaru llifogydd

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £300,000 mewn cynllun a fydd yn lliniaru’r perygl o orlifo i gartrefi lleol yn ardal Llanfaglan o Rostryfan.

15/09/2008

Arddangosfa am cynlluniau Dwr Cymru i fynd i’r afael a llifogydd yng Nghaerffili

Y mae trigolion yng Nghaerffili yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau Dwr Cymru Welsh Water ar gyfer cynllun gwerth £1 filiwn a fydd yn cynorthwyo i liniaru’r perygl o lifogydd yn Heol Bedwas.

11/09/2008

Disgyblion Ysgol Gynradd Markham yn Ennill gydag Effeithlonrwydd Dwr

Y mae disgyblion o Ysgol Gynradd Markham yn Y Coed Duon wedi profi’u bod yn eithriadol o effeithlon gyda dwr yn yr ysgol ac yn y cartref, fel ei gilydd - mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Dwr Cymru Welsh Water.

08/09/2008

Cynllun gwelliannau dwr gwerth £20,000 ar y gweill ar gyfer Henllan

Fe fydd cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn Henllan yn go fuan yn elwa oddi wrth gynllun gwelliannau dwr yn eu hardal.

04/09/2008

Penwythnos o hwyl yn Llyn Brenig

Fe gaiff ymwelwyr a chronfa ddwr Llyn Brenig o eiddo Dwr Cymru Welsh Water y cyfle i ddysgu hobi newydd celfydd ar y dwr a darganfod mwy am y byd rhyfeddol sy’n bodoli oddi tano y penwythnos hwn.

04/09/2008

Anturiaethau’r hydref yng Nghwm Elan

“Efallai bod yr haf y tu cefn inni, ond nid yw’n bryd cadw’r esgidiau cerdded ‘na yn union eto”, yw’r neges oddi wrth Geidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan. Fe wahoddir anturiaethwyr yr hydref i ymuno a Chrwydr Caban ddydd Sul, y 14eg o Fedi a chanfod mwy am hanes yr ardal tra eu bod yn dystion i ddechreuad y newidiadau tymhorol.

03/09/2008

Y mae athrawon o Dde Cymru yn cyfnewid yr ystafell ddosbarth am yr awyr fawr agored

Y mae dau o athrawon o Dde Cymru wedi camu allan o’r ystafell ddosbarth ac i mewn i’r awyr fawr agored am secondiad blwyddyn gyda Dwr Cymru Welsh Water.

03/09/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion buddsoddiad dwr gwerth £800,000 yn Ninas Powys

Y mae trigolion yn Saint Andras a Dinas Powys yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau o gynllun buddsoddi £800,000 gan Dwr Cymru Welsh Water.

01/09/2008

Cynllun gwelliannau dwr gwerth £50,000 ar y gweill ar gyfer Treffynnon

Y mae cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn Nhreffynnon yn mynd i elwa oddi wrth gynllun gwelliannau dwr yn yr ardal.

29/08/2008

Prosiect Wildmill yn cael ei gwblhau gyda chwpanaid o de a theisen gri

Y mae’r gwaith o gwblhau’n llwyddiannus gynllun gwerth £450,000 i uwchraddio’r rhwydwaith dwr gwastraff yn ardal Wildmill ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’i ddathlu gyda chwpanaid o de a theisen gri.

29/08/2008

Gofyn cwsmeriaid Dwr Cymru yn ardal Bangor i ferwi dwr tap

Heno cyhoeddodd Dwr Cymru hysbysiad berwi dwr ffurfiol ar gyfer pob cwsmer yn ardaloedd Bangor, Porthaethwy a Llanfair PG yn y gogledd. Mae pentref Capel Curig hefyd yn rhan o'r ardal berthnasol. Rydym yn cynghori cwsmeriaid yn yr ardaloedd hyn i ferwi dwr tap a ddefnyddir i yfed neu baratoi bwyd tan i ni hysbysu ymhellach. Bydd yr hysbysiad yn effeithio oddeutu 45,000 o bobl. Nodir y cymunedau ar y rhestr amgaeedig.

20/08/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynorthwyo rhwydwaith dwr gwastraff Y Fflint i ddiwallu anghenion y d

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau gwaith ar gynllun yn Y Fflint, a fydd yn cynorthwyo i ddiwallu gofynion datblygiad tai yn y dyfodol yn yr ardal.

19/08/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynhyrchu ffilm ar-lein i gynorthwyo i hysbysu cwsmeriaid ynglyn a’r

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cynhyrchu adroddiad blynyddol ar ffilm i gynorthwyo i hysbysu’u cwsmeriaid ynglyn a’u perfformiad yn y flwyddyn 2007-08.

19/08/2008

Buddsoddi i wella gwasanaethau dwr gwastraff yn Sir Gaerfyrddin

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau gwaith ar gynllun ym Mhencader, a fydd yn darparu buddion amgylcheddol i’r ardal.

18/08/2008

Y mae gweithwyr dwr yn annog sefydliadau i ‘dapio’ i mewn i adnodd siaradwyr

Fe all sefydliadau a grwpiau cymuned ledled Cymru yn awr dapio i mewn i adnodd pwrpasol o siaradwyr i annerch eu staff a’u haelodau am waith Cymorth Dwr i alluogi rhai o’r bobl dlotaf i gael at ddwr diogel a glanweithdra.

14/08/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn penodi Pennaeth Ansawdd Dwr Yfed newydd

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn falch o gyhoeddi y bydd Sharon Evans yn ymuno a’r cwmni fel Pennaeth Ansawdd Dwr Yfed ym mis Hydref.

11/08/2008

Y MAE DWR CYMRU WELSH WATER YN CYHOEDDI’U CYNLLUN BUSNES DRAFFT

Biliau unradd a rhaglen fuddsoddi gwerth £1.5 biliwn

 

Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw wedi cyflwyno'u Cynllun Busnes Drafft i Ofwat, rheolydd y diwydiant dwr. Dyma'r cam cyntaf yn yr adolygiad pum mlynedd a fydd yn pennu safonau, gwariant buddsoddi a biliau cwsmeriaid ar gyfer y cyfnod nesaf, 2010-2015. Dros y misoedd sydd i ddod, fe fydd y Cynllun Busnes Drafft hwn yn cael ei adolygu a'i herio gan Ofwat ac eraill, ac fe fydd y Cynllun Busnes Terfynol wedyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

11/08/2008

Y MAE DWR CYMRU WELSH WATER YN CYHOEDDI’U CYNLLUN BUSNES DRAFFT

Biliau unradd a rhaglen fuddsoddi gwerth £1.5 biliwn

 

Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw wedi cyflwyno'u Cynllun Busnes Drafft i Ofwat, rheolydd y diwydiant dwr. Dyma'r cam cyntaf yn yr adolygiad pum mlynedd a fydd yn pennu safonau, gwariant buddsoddi a biliau cwsmeriaid ar gyfer y cyfnod nesaf, 2010-2015. Dros y misoedd sydd i ddod, fe fydd y Cynllun Busnes Drafft hwn yn cael ei adolygu a'i herio gan Ofwat ac eraill, ac fe fydd y Cynllun Busnes Terfynol wedyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

08/08/2008

Disgyblion yn llifo i Dwr Cymru Welsh Water

Y mae staff gwasanaethau cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water a disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yn Llaneirwg wedi dathlu diwedd blwyddyn lwyddiannus arall o fentora, gydag ymweliad a’r ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn i’r plant gael gweld drostynt eu hunain ble y mae’u mentoriaid yn gweithio. Y mae staff gwasanaethau cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water a disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yn Llaneirwg wedi dathlu diwedd blwyddyn lwyddiannus arall o fentora, gydag ymweliad a’r ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn i’r plant gael gweld drostynt eu hunain ble y mae’u mentoriaid yn gweithio.

05/08/2008

Gwingwch eich hun i bysgota yn Llys-y-Fran

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad ym mharc gwledig a chronfa ddwr Dwr Cymru Welsh Water yn Llys-y-Fran, ger Hwlffordd, yn cynnig rhannu’u harbenigedd a’u gwybodaeth am bysgota ddydd Gwener hwn (15fed o Awst).

04/08/2008

Hwyl gwyliau’r haf ar gyfer y teulu yn Llys-y-Fran

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn Llys-y-Fran yn paratoi ar gyfer gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer y teulu i gyd yn ystod gwyliau’r haf hwn.

01/08/2008

Anturiaethau Awst yng Nghwm Elan

Manteisiwch hyd yr eithaf ar wyliau’r haf gydag ymweliad a Chwm Elan ble y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig i ymwelwyr wythnos o ddigwyddiadau llawn difyrrwch ac addysgiadol sy’n addas i bawb. Yn gyntaf, y mae yna’r cyfle i fwynhau’r awyr fawr agored ac ymestyn eich coesau ddydd Sul, y 10fed o Awst gyda thaith gerdded rwydd ‘Taith y Pentref’ sy’n filltir o hyd drwy ran o Stad Elan.

31/07/2008

Fe fydd Brymbo yn elwa oddi wrth gynllun buddsoddi Dwr Cymru Welsh Water

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i ddechrau gweithio ar gynllun buddsoddi gwerth £260,000, a fydd yn dod a buddion amgylcheddol i Frymbo.

31/07/2008

Hwyl gwyliau’r haf ar gyfer y teulu yn Llys-y-Fran

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn Llys-y-Fran yn paratoi ar gyfer gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer y teulu i gyd yn ystod gwyliau’r haf hwn.

31/07/2008

Fe fydd Brymbo yn elwa oddi wrth gynllun buddsoddi Dwr Cymru Welsh Water

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i ddechrau gweithio ar gynllun buddsoddi gwerth £260,000, a fydd yn dod a buddion amgylcheddol i Frymbo.

30/07/2008

Ysgolion Sir Fynwy yn rhoi cymeradwyaeth i wersi dwr

Y mae diwrnodau gweithgareddau newydd sbon gan Dwr Cymru Welsh Water, sef ‘Pwysigrwydd Dwr / Water Matters’, wedi profi mor boblogaidd gydag ysgolion Sir Fynwy fel bod pob un o’r naw o sesiynau’r cwmni wedi’u harchebu o fewn pedair awr ar hugain.

29/07/2008

Gwraig o Gasnewydd i ddysgu drosti’i hun sut y mae’r tlotaf yn goroesi yn Uganda heb ddwr glan na gl

Er nad yw Uganda yn cael ei chynnwys yn y newyddion yr un mor rheolaidd a rhai o’i chymdogion mwy anwadal yn Affrica, eto i gyd y mae’r wlad yn dal yn druenus o dlawd ac y mae bron hanner y boblogaeth yn byw heb gyflenwad dwr diogel. Fe fydd Mary Watkins o Dwr Cymru Welsh Water yn profi’r amgylchiadau hyn drosti’i hun pan fydd hi’n ymweld a’r wlad ddiwedd mis Awst, gyda’r elusen Cymorth Dwr.

29/07/2008

Gwlyptiroedd a Dwr ar gyfer Disgyblion Ysgol

Y mae disgyblion o Ysgol Gynradd Gwauncelyn ym Mhontypridd wedi bod yn ymweld a Chanolfan Genedlaethol Gwlyptiroedd Cymru (NWCW) yn Llanelli am wers arbennig am y rhan hanfodol sydd gan ddwr yn ein bywydau.

28/07/2008

Cynorthwywch amgylchedd Cymru:‘Peidiwch a defnyddio’ch toiled fel bin ysbwriel’

• Y mae cwmni’n enwi’r ‘Dwsin Drwg’ o eitemau i beidio a’u fflysio i lawr y toiled. • Ysgol a thim dwr mewn ymgyrch codi ysbwriel ar draeth Porthcawl. Y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cefnogi Dwr Cymru Welsh Water yn eu hymgyrch i atgoffa cwsmeriaid: ‘Nid bin ysbwriel yw’ch toiled.’

25/07/2008

Wythnos o ryfeddodau yng Nghwm Elan

Gyda dyfodiad tywydd cynnes mis Awst, nid oes yna esgus dros aros dan do, gan fod Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig y cyfle i ymwelwyr a Chwm Elan gymryd rhan mewn wythnos o ddigwyddiadau amrywiol ac sy’n llawn hwyl.

22/07/2008

Y mae Tywyn i dderbyn hwb amgylcheddol

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £230,000 mewn cynllun a fydd yn darparu hwb amgylcheddol i ardal Sandilands yn Nhywyn.

21/07/2008

Y mae yna hippo’n dod i dref wrth eich ymyl chi

A allech chi ffitio hippo yn eich cartref? Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn herio cwsmeriaid i ymweld a’u sioeau teithiol yr haf hwn a chanfod yn union pa mor hawdd ydyw!

21/07/2008

Buddsoddiad dwr gwerth £1.5 miliwn ar ei ffordd i Don Pentre a’r Gelli

Fe roddir y cyfle i drigolion yn Nhon Pentre a’r Gelli gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £1.5 miliwn Dwr Cymru Welsh Water sydd wedi’i amserlennu i ddechrau yn yr ardal yn go fuan.

18/07/2008

Y mae Cas-gwent yn paratoi ar gyfer tywydd stormus

Y mae Dwr Cymru Welsh Water am ddechrau gwaith yng Nghas-gwent i roi hwb i allu’i rwydwaith dwr gwastraff i ymdopi yn ystod amgylchiadau tywydd storm.

18/07/2008

Y mae Trecelyn yn paratoi ar gyfer tywydd stormus

Y mae Dwr Cymru Welsh Water am ddechrau gwaith yn Nhrecelyn i roi hwb i allu’i rwydwaith dwr gwastraff i ymdopi yn ystod amgylchiadau tywydd storm.

16/07/2008

Pwyllwch a meddyliwch ddwywaith cyn nofio mewn cronfeydd dwr

Cadwch allan o gronfeydd dwr oedd y neges a roddwyd gan Dwr Cymru Welsh Water yn nigwyddiad diogelwch cymunedol Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru yn Coopers Field, Caerdydd.

16/07/2008

Y mae Dechreuwyr i gael ‘Blas ar Frithyll’

Y mae’r mis hwn yn dyst i gynnal un arall o’r cyrsiau pysgota a phlu bythol boblogaidd yng nghronfa ddwr olygfaol Llys-y-Fran o eiddo Dwr Cymru Welsh Water.

11/07/2008

Gwyliau llawn hwyl yr haf yn dechrau yng Nghwm Elan

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad ar Stad Cwm Elan o eiddo Dwr Cymru Welsh Water yn eiddgar i gyflwyno ystod o ddigwyddiadau gwyliau’r haf ar gyfer y teulu i gyd - ac y mae’r rhan fwyaf am ddim hefyd. Y mae’r digwyddiad cyntaf, y daith gerdded ‘Nerth Blodau’, yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, y 19eg o Orffennaf ac fe fydd yn apelio at egin-fotanegwyr a pherlysieuwyr. Fe fydd ymwelwyr yn chwilio am blanhigion megis yr Urtica dioca, a adwaenir yn well fel y ‘danadl poethion’, mewn gwrychoedd, coetir a thir anial, a dysgu am y gwahanol ddefnyddiau sydd yna ar gyfer y planhigyn hwn y mae modd ei wneud yn de neu’n gawl blasus.

11/07/2008

Gweithwyr dwr i gynorthwyo i gadw Penybont yn daclus

Y mae gweithwyr Dwr Cymru Welsh Water wedi nodi Wythnos Cymru Daclus 2008 gydag ymgyrch cael gwared ag ysbwriel ym Mryncrug.

11/07/2008

Hwyl gwyliau’r haf ar gyfer y teulu yn Llys-y-Fran

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn Llys-y-Fran yn paratoi ar gyfer gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer y teulu i gyd yn ystod gwyliau’r haf hwn.

10/07/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a llifogydd yng Nghwmbach

Y mae’r wythnos hon (dydd Llun, y 14eg o Orffennaf) yn dyst i ddechreuad cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru’r perygl o lifogydd yng Nghwmbach.

10/07/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a llifogydd ym Mhenarth

Y mae’r wythnos hon (dydd Llun, y 14eg o Orffennaf) yn dyst i ddechreuad cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru’r perygl o lifogydd ym Mhenarth.

09/07/2008

Saffari Bwystfilod Bach a Throchi mewn Pwll yn Llyn Brenig

A ydych erioed wedi meddwl tybed pa fath o fwystfilod dyfriog sy’n llechu yn ein pyllau a’n gerddi? Os ydych, y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig y cyfle ichi ganfod hynny ar saffari bwystfilod bach a throchi mewn pwll yng Ngogledd Cymru.

09/07/2008

Dwr Cymru Welsh Water yn addo cymorth amgylcheddol

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi uno gyda Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) i fod y sefydliad cyntaf yng Nghymru i addo’i gymorth er mwyn lleihau tirlenwi a chynyddu’r defnydd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn ei waith.

08/07/2008

Dechreuwyr i gael ‘Blas ar Frithyll’

Fe fydd y penwythnos hwn yn gweld un arall o’r cyrsiau pysgota a phlu tragwyddol boblogaidd yng nghronfa ddwr Dwr Cymru Welsh Water yn Llandegfedd.

08/07/2008

Hwyl hel rhedyn yng Nghwm Elan

Y mae taith dywysedig ar hyd Llwybr Natur Coed Cnwch yng Nghwm Elan ddydd Sadwrn hwn (y 12fed o Orffennaf) yn anelu at ganfod o leiaf 15 o wahanol rywogaethau o redyn.

07/07/2008

Rhodd gweithwyr dwr i elusen leol

Y mae staff Dwr Cymru Welsh Water wedi rhoi hwb i’r elusen o Dde Cymru, Ty Hafan, ar ffurf rhodd o £800.

07/07/2008

Rhodd gweithwyr dwr i elusen leol

Y mae staff Dwr Cymru Welsh Water wedi rhoi hwb i’r elusen Enable, a leolir yng Nghaerffili, ar ffurf rhodd o £800.

02/07/2008

Buddsoddiad Arfaethedig ym Mhenllergaer

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn bwriadu uwchraddio’r rhwydwaith carthffosiaeth ar Gors Common er mwyn caniatau cysylltu datblygiad arfaethedig o dai ym Mhant Penderri, a lliniaru’r perygl o ddwr gwastraff yn gorlifo yn yr ardal. Fe fydd y cynllun yn cynnwys gosod 590 metr o garthffosydd yn y comin a thanc yng ngorllewin y comin, gerllaw Gors Road a Heol Gorseinon. Fe fydd y tanc yn cael ei weithredu fel cyfleuster dal dwr byrdymor ar gyfer dwr storm yn ystod cyfnodau o dywydd garw.

02/07/2008

Cynllun Stryd Zouch yn Dechrau

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau ar gynllun gwerth £300,000 i atal gorlifo i eiddo yn Stryd Zouch yn ardal Manselton o ddinas Abertawe. Fe fydd y gwaith, sy’n golygu adeiladu carthffos liniaru newydd 60 metr o hyd, yn cynyddu cynhwysedd ar y rhwydwaith, ac fe fydd y gwaith yn cael ei wneud yn Stryd Zouch, Stryd Clare a Stryd Millwood.

01/07/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi i wella gwasanaethau dwr gwastraff yn Hwlffordd

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau gwaith ar gynllun i wella perfformiad rhwydwaith dwr gwastraff Hwlffordd.

01/07/2008

Tro bach hamddenol yn yr haf yn Llandegfedd

Fe all ymwelwyr a chronfa ddwr Llandegfedd o eiddo Dwr Cymru Welsh Water fanteisio hyd yr eithaf ar dywydd yr haf gyda thaith gerdded a drefnwyd ar gyfer dydd Sul hwn (y 6ed o Orffennaf).

30/06/2008

Rhodio ar hyd y ddol yng Nghwm Elan

Y mae’r sawl sy’n caru blodau ac ‘egin’ fotanegwyr yn cael cynnig y cyfle i gael golwg ar rywogaethau prin a rhywogaethau a warchodir yn eu cynefin naturiol yng Nghwm Elan ddydd Sul, y 6ed o Orffennaf.

30/06/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion cynllun buddsoddi gwerth £320,000 yn nhref Arberth

Y mae trigolion yn Arberth yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £320,000 sydd ar y gweill gan Dwr Cymru Welsh Water.

30/06/2008

BWLETIN TRAFFIG ODDI WRTH DWR CYMRU WELSH WATER

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yng nghanol tref Llanelli yn parhau i dderbyn cyflenwad dibynadwy o ddwr yfed o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.

27/06/2008

Ewch i gael eich bachu ar Bysgota a Phlu yn Llyn Brenig

Y mae ymwelwyr a chronfa ddwr Llyn Brenig, ger Corwen, yn cael y cyfle i ddysgu hobi newydd ddydd Sul hwn (y 6ed o Orffennaf) pan fydd celfyddyd gelfydd pysgota a phlu ar gael i bawb roi tro arni.

25/06/2008

Helpwch amgylchedd Cymru: 'Peidiwch a defnyddio'ch toiled fel bin'

• Cwmni'n enwi'r 'Dwsin Drwg' o eitemau na ddylid eu golchi i lawr y toiled • Tîm ysgol a dwr yn casglu ysbwriel ar draeth Porthcawl Mae Dwr Cymru Welsh Water yn cefnogi 'Wythnos Cymru Daclus' Cadwch Gymru'n Daclus drwy atgoffa cwsmeriaid: 'Nid bin yw'ch toiled'.

23/06/2008

Llandrillo-yn-Rhos i elwa o gynllun lliniaru llifogydd gan Dwr Cymru Welsh Water

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau gwaith yn Llandrillo-yn-Rhos ar brosiect a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd mewnol i gartrefi lleol.

23/06/2008

Johnstown i elwa o gynllun lliniaru llifogydd

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi bron £600,000 mewn cynllun a fydd yn lliniaru’r perygl o orlifo i gartrefi lleol yn ardal Johnstown yn Wrecsam.

20/06/2008

Tim dwr yn codi ‘mynydd o arian’ i elusen

Y mae cynrychiolwyr Dwr Cymru Welsh Water wedi codi bron £5000 ar gyfer yr elusennau Cymorth Dwr a Hosbis Plant Claire House drwy ddringo mynyddoedd uchaf Cymru mewn un diwrnod.

19/06/2008

Disgyblion Yr Wyddgrug yn cynorthwyo i barhau a’r frwydr yn erbyn braster

Y mae ymgyrch Dwr Cymru Welsh Water i ymladd yn erbyn braster yn parhau gyda chymorth gan ddisgyblion yn Ysgol Parc Y Llan yn Nhreuddyn, sydd wedi bod yn dysgu bod bwydo adar gwyllt nid yn unig yn eu cynorthwyo hwynt i aros yn iach ond fe allai hefyd gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.

18/06/2008

Archwilio Cwm Elan ar Daith Gerdded Gron o amgylch Pen y Garreg

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn gwahodd pobl i archwilio’r olygfa syfrdanol yn ardal Pen y Garreg gyda thaith gerdded dywysedig brynhawn Sadwrn hwn (yr 21ain o Fehefin).

16/06/2008

Mynydd o her i staff Dwr Cymru Welsh Water

Y mae dau o weithwyr Dwr Cymru Welsh Water o Gaerdydd wedi cynorthwyo i godi mwy na £600 ar gyfer yr elusen Cymorth Dwr, ar ol dringo bron 3,000 o droedfeddi i frig mynydd Cadair Idris yn Eryri, Gogledd Cymru.

16/06/2008

Gweithwyr dwr yn rhoi cymorth llaw i elusen leol

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi rhoi cymorth llaw i elusen yng Nghwm Clydach drwy osod tarmac ar faes parcio’r elusen.

16/06/2008

Rasa i gael cynllun gwelliannau dwr gwerth £1.1 miliwn

Fe fydd cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn Rasa yn go fuan yn elwa oddi wrth gynllun gwelliannau dwr yn eu hardal.

12/06/2008

Y Pennau Tap yn dangos eu nerth ymenyddol dros Cymorth Dwr

Fe wnaeth goruchafiaeth mewn nerth ymenyddol ennill y dydd pan wnaeth tim o weithwyr Dwr Cymru Welsh Water o Ffos y Gerddinen drechu’r ‘Eggheads’ clodfawr ar sioe gwis teledu’r BBC.

12/06/2008

Y mae disgyblion Tywyn yn cael mewnwelediad i adeiladu

Y mae disgyblion o Ysgol Uwchradd Tywyn wedi derbyn mewnwelediad drostynt eu hunain i’r hyn y mae’n ei gymryd i naddu gyrfa iddynt eu hunain yn y diwydiant adeiladu.

11/06/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water i ddychwelyd £27 miliwn i’w cwsmeriaid

Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw yn cyhoeddi’u canlyniadau rhagarweiniol am y flwyddyn sy’n diweddu ar yr 31ain o Fawrth, 2008 – sy’n dangos rhagor o enillion mewn effeithlonrwydd a nerth ariannol.

10/06/2008

Taith Taf

Y mae saith a thrigain o feicwyr awyddus gyda chysylltiadau cryfion a Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau Taith Taf sy’n 55 milltir o hyd i gefnogi hoff elusen y sefydliad, Cymorth Dwr.

09/06/2008

DWR CYMRU’N YMUNO AG YMGYRCH Y DU

· Ymgyrch ‘Cnoc Cnoc. Pwy sy ‘na? Holwch yn iawn cyn eu gadael i mewn!’ yn cael ei lansio heddiw · Lanio ymgyrch ar ol i bensiynwyr o Gymru’n dioddef o ladrata tynnu sylw

09/06/2008

Y mae disgyblion yn Y Fflint yn cael eu recriwtio i gynorthwyo i ymladd braster

Y mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Cornist Park yn Y Fflint wedi bod yn dysgu sut y mae bwydo adar gwyllt nid yn unig yn eu cynorthwyo hwynt i aros yn iach ond fe allai hefyd gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.

05/06/2008

Y mae Talacre i elwa oddi wrth gynllun lliniaru llifogydd gan Dwr Cymru Welsh Water

Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn dechrau gwaith yr wythnos hon ar gynllun a fydd yn lliniaru’r perygl o lifogydd mewn ardal o Dalacre.

03/06/2008

Dwr Cymru yn cwblhau cynllun lliniaru llifogydd ym Meliden

Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau cynllun i leihau’r perygl o lifogydd mewnol a llifogydd allanol i gartrefi ym Meliden, Prestatyn.

28/05/2008

Tim dwr i gyrraedd y brig dros elusen

Y mae cynrychiolwyr o Dwr Cymru Welsh Water wedi gosod targed uchelgeisiol iddynt eu hunain i godi mwy na £3000 ar gyfer yr elusen Cymorth Dwr a Hosbis Plant Claire House drwy ddringo rhai o fynyddoedd uchaf Cymru.

27/05/2008

Y mae canolfan addysg Dwr Cymru Welsh Water yn cael gweddnewidiad gwyrdd

Y mae Canolfan Addysg Amgylcheddol Dwr Cymru Welsh Water yn Alwen yn wyrddach nag erioed, ar ol cael gweddnewidiad diweddar.

27/05/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion cynllun buddsoddi dwr gwerth £730,000 yn Abertawe

Y mae trigolion yn ardaloedd Y Sgeti, Fforestfach a’r Cocyd yn Abertawe yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £730,000 gan Dwr Cymru Welsh Water.

22/05/2008

Cyhoeddi enwau enillwyr y Wobr Glan Mor

Mae pedwar deg a dau o draethau Cymru a phum marina ar y rhestr o leoliadau mewn 36 o wledydd yn y byd a fydd yn cael cydnabyddiaeth am fedru cwrdd a’r meini prawf llym sydd yn ymwneud a’r dwr ymdrochi ac a phethau ar y tir, gan ennill statws y Faner Las.

21/05/2008

Dechreuwyr i gael ‘Blas ar Frithyll’

Fe fydd y penwythnos hwn yn gweld un arall o’r cyrsiau pysgota a phlu tragwyddol boblogaidd yng nghronfa ddwr Dwr Cymru Welsh Water yn Llandegfedd.

21/05/2008

Tro bach hamddenol gyda’r nos yng Nghwm Elan

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn gwahodd pobl i wneud y mwyaf o’r nosweithiau goleuach ac ymuno a thaith gerdded hamddenol gyda’r nos ddydd Sul hwn (y 25ain o Fai).

21/05/2008

Amser da eithriadol yng Nghwm Elan

Yr hanner tymor hwn, fe fydd Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn cynnig y cyfle i ymwelwyr fwynhau’r atyniadau naturiol a’r atyniadau gwneuthuredig sydd gan y Stad i gynnig.

21/05/2008

Tro bach hamddenol gyda’r nos yng Nghwm Elan

Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn gwahodd pobl i wneud y mwyaf o’r nosweithiau goleuach ac ymuno a thaith gerdded hamddenol gyda’r nos ddydd Sul hwn (y 25ain o Fai).

19/05/2008

Y mae pobl Y Fflint yn cael eu hannog i ymladd braster

Y mae pobl Y Fflint yn cael eu hannog i gynorthwyo i weddnewid y dref i fod yn ‘barth di-fraster’ er mwyn cynorthwyo i gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.

12/05/2008

Heb os nac oni bai – ewch am gasgen!

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig cynorthwyo cwsmeriaid i Fod yn Gall gyda Dwr yr haf hwn

12/05/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a llifogydd yng Nghilfynydd

Y mae’r wythnos hon (dydd Llun, y 12fed o Fai) yn gweld dechrau cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru peryglon llifogydd yng Nghilfynydd, ger Pontypridd.

12/05/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn mynd i’r afael a llifogydd yn Ffos y Gerddinen

Y mae’r wythnos hon (dydd Llun, y 12fed o Fai) yn gweld dechrau cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru peryglon llifogydd yn Llwyn-yr-Eos, Ffos y Gerddinen.

08/05/2008

Y mae ansawdd dwr yn mynd i wella gyda buddsoddiad

Y mae rhaglen fuddsoddi gwerth £19 miliwn mewn ansawdd dwr yfed yng Ngwaith Trin Dwr Court Farm yn mynd i ddechrau, gan ddod a gwell ansawdd yn y cyflenwad i gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn yr ardal.

07/05/2008

Y mae Dwr Cymru Welsh Water am adfer cronfa ddwr i ail-wasanaethu

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio yng Ngharno Isaf i adfer y gronfa ddwr leol i ail-wasanaethu.

28/04/2008

Y mae Talybont yn ‘rhwydo’ budd oddi wrth fuddsoddiad gan Dwr Cymru Welsh Water

Y mae dau o amwynderau mwyaf poblogaidd Talybont, sef y Clwb Criced a Neuadd Henderson, wedi elwa oddi wrth fuddsoddiad gwerth £16.8 miliwn gan Dwr Cymru Welsh Water yng Ngwaith Trin Dwr Talybont.

28/04/2008

Arddangosfa gyhoeddus i roi manylion buddsoddiad dwr sy’n fuddsoddiad gwerth £665,000 ym Mhontarddul

Y mae trigolion ym Mhontarddulais yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £665,000 o eiddo Dwr Cymru Welsh Water.

28/04/2008

Plant ysgol Pen-y-bont ar Ogwr yn troi’n arolygwyr safle am y diwrnod

Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Plasnewydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wisgo’u siacedi llachar ac esgidiau diogelwch – i ymweld a’r estyniad gwerth £6.35 miliwn i waith trin dwr gwastraff Dwr Cymru Welsh Water yn Y Bari.

25/04/2008

Y mae Ysgol Babanod Wat’s Dyke yn ennill gyda Dwr Cymru Welsh Water, fel y mae cynllun lliniaru llif

Yr oedd disgyblion o Ysgol Babanod Wat’s Dyke yn ddarlun o berffeithrwydd wrth iddynt orffen ar y brig mewn cystadleuaeth ddarlunio, a drefnwyd gan Dwr Cymru Welsh Water.

24/04/2008

Y mae gwaith uwchraddio hanfodol yn dechrau yn Amlwch

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn gwneud gwaith hanfodol i adeiladu gwaith trin dwr gwastraff newydd yn Amlwch, a ddaw a buddion arwyddocaol i gymunedau lleol ac i’r amgylchedd.

24/04/2008

Mwy o bwer dwr i ogledd Cymru

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn tanio tyrbin trydan dwr yng nghronfa ddwr Llyn Brenig i gynhyrchu ynni glan a chymryd cam arall tuag at ostwng ol-troed carbon y cwmni.

24/04/2008

Mwy o bwer dwr i ogledd Cymru

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn tanio tyrbin trydan dwr yng nghronfa ddwr Llyn Brenig i gynhyrchu ynni glan a chymryd cam arall tuag at ostwng ol-troed carbon y cwmni.

23/04/2008

Y mae tim lleol yn mynd ar y ‘bws-dwr’ i Blackpool

Fe wnaeth tim pel-droed o dan 8 oed Ieuenctid Blacon (Blacon Youth) deithio ar ‘fws-dwr’ i Blackpool y penwythnos hwn i gystadlu mewn twrnamaint cenedlaethol.

23/04/2008

Y mae Dwr Cymru yn rhoddi ‘hippos’ i ysgol leol

Y mae Ysgol Bryn Tabor wedi derbyn cyfarpar effeithlonrwydd dwr oddi wrth Dwr Cymru Welsh Water i ddathlu cwblhau’u cynllun yn yr ardal ac i gynorthwyo disgyblion i arbed dwr ac i ddiogelu’r amgylchedd.