RYDYCH YMA > Hafan > Arbed dŵr

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Adnoddau Dŵr yng Nghymru

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058

Mae Dŵr Cymru yn gweithio'n galed i arbed dŵr ac i annog pobl i'w ddefnyddio'n effeithlon. Mae dŵr yn adnodd adnewyddadwy ond nid oes cyflenwad diddiwedd ohono ac mae'r dŵr sydd ar gael i ni bob blwyddyn yn dibynnu ar faint o law a gawn. Mae’r sefyllfa o ran adnoddau dŵr yn ardal gyflenwi Dŵr Cymru yn eithaf cryf. Rydym yn defnyddio tua 3% o lawiad effeithiol blynyddol ein rhanbarth i fynd i’r cyflenwad cyhoeddus. Mae 96% o hwnnw’n cael ei dynnu o afonydd a defnyddir dŵr sy’n cael ei ryddhau o’n cronfeydd cronni hefyd.

Mae gennym gronfeydd dŵr ledled Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ateb galw ein cwsmeriaid am ddŵr a pharchu ein hamgylchedd hefyd. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn cadw golwg ar lefelau ein cronfeydd dŵr yn barhaus i sicrhau ein bod yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Fodd bynnag, mae'n dal yn bwysig i'n cwsmeriaid ddefnyddio dŵr yn ddoeth ac, fel rhan o'n hymgyrch 'Doeth gyda Dŵr', rydym yn dweud "defnyddiwch gymaint o ddŵr yfed ag y mae arnoch ei angen, ond peidiwch â'i wastraffu".

Rydym hefyd yn gofyn i'n cwsmeriaid roi gwybod i ni os gwelant fod prif bibell ddŵr yn gollwng trwy ffonio ein Llinell Ollyngiadau ar 0800 281 432 ac fe wnawn ni ei thrwsio cyn gynted ag y gallwn.

Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadrannau effeithlonrwydd dŵr ac adnoddau dŵr.

Beth bynnag yw'r tywydd, gall pawb ohonom ddefnyddio dwr yn ddoeth bob dydd er mwyn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Dyma ddeg SYNIAD DA:

1

Cyfyngwch ar eich cawod i bedwar munud ac arbedwch ddŵr, amser a chostau ynni.

2

Peidiwch â gadael i’r tap lifo pan ydych yn glanhau’ch dannedd, yn eillio neu’n golchi’ch dwylo.

3

Gosodwch fag ‘hipo, yr arbedwr dŵr’ yn seston eich toiled ac arbedwch hyd at dri litr o ddŵr bob tro ‘rydych yn llifolchi (fflysio). Rhowch alwad ffôn inni ar 0800 052 0138 am eich bag hipo rhad ac am ddim.

4

Defnyddiwch eich peiriant golchi neu’ch peiriant golchi llestri dim ond pan fo ganddynt lwythi llawn.

5

Atgyweiriwch (trwsiwch) unrhyw dapiau sy’n gollwng neu’n diferu.

6

Defnyddiwch bibell llaw neu gan dyfrio yn hytrach na thaenellwr gardd, oherwydd bod taenellwr dŵr yn defnyddio cymaint o ddŵr mewn awr ag y mae teulu nodweddiadol yn ei ddefnyddio mewn dau ddiwrnod.

7

Mae’r pwll nofio cyffredin 12 troedfedd uwchben daear yn cymryd 6000 litr o ddŵr i’w lenwi: mae hynny’n ddigon i lenwi 75 baddon. Fe fydd rheoli ansawdd dŵr eich pwll yn ofalus yn sicrhau y gallwch chi’i fwynhau drwy gydol yr haf, heb ei wagio a’i ail-lenwi dro ar ôl tro.

8

Defnyddiwch gasgen ddŵr i gasglu dŵr glaw o’ch to i’w ddefnyddio ar gyfer dyfrio’r ardd. Fe wna lenwi’n rhyfeddol o gyflym yn ystod cawod haf.

9

Gwrandewch ar ragolygon y tywydd cyn dyfrio planhigion gardd – rhag ofn bod glaw ar ei ffordd.

10

Ystyriwch brynu planhigion nad oes arnynt angen llawer o ddyfrio.

 

 

corner

Gwybodaeth bellach

Arbed Dŵr! Arbed Arian!

Arbed Dŵr! Arbed Arian!

Clic yma i ddarganfod mwy…

Defnyddio dŵr yn ddoeth

Defnyddio dŵr yn ddoeth

Clic i ddarllen ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 246kb

Bag Hippo

Bag Hippo

Clic i archebu bag ar-lein

DIY water audit - Home

DIY Archwiliad Dŵr i'w Gyflawni yn y Cartref

Clic yma i ddarllen mwy.