Click here for English version

Datblygu Dyfodol Llwyddiannus, gyda’n gilydd

Datblygu Dyfodol Llwyddiannus, gyda’n gilydd


Rhagolygon Graddedigion

Nodyn: Mae’r Broses Ymgeisio ar gyfer Cynllun Graddedigion Dŵr Cymru yn 2011 wedi cau.

Gweithwyr talentog ac egniol yw adnoddau mwyaf gwerthfawr y cwmni. Wrth gyflogi pobl ymroddedig gallwn weithio er cyrraedd y nod o‘n ‘cydnabod fel cwmni dŵr gorau’r Deyrnas Unedig’.

Ein Rhaglen

Fel aelod o’n Rhaglen Graddedigion byddwch yn derbyn y cymorth angenrheidiol i ddatblygu gyrfa a gwireddu eich dyheadau. Ar ddiwedd y rhaglen byddwch yn gallu gwneud cais am swydd mewn unrhyw ran o’r busnes.

Rhai o nodweddion allweddol y rhaglen:

  • Rhaglen dwy flynedd
  • Gweithio mewn nifer o rolau heriol fel rhan o brojectau datblygu penodol
  • Cymorth estynedig gan gyfarwyddwr gweithredol a mentor hŷn
  • Hyfforddiant rheoli ac arwain
  • Cyfle i weithio gydag amrediad o gyrff partner
  • Cyfle i gael cymwysterau proffesiynol pellach.

Os oes diddordeb gennych mewn datblygu gyrfa lwyddiannus ble bydd pob diwrnod yn wahanol a byddwch yn helpu i siapio dyfodol cwmni cyfleustodau blaenllaw, yna rydym am glywed oddi wrthych.

Y Buddion

Fel y byddech yn disgwyl o gwmni dŵr a charthffosiaeth blaenllaw yng Nghymru a Lloegr, byddwch yn derbyn nifer o fuddion cymwys.

Er enghraifft:

  • Cyflog cychwynnol o £21,000
  • Adolygiad cyflog blynyddol
  • 25 diwrnod o wyliau
  • Ffioedd aelodaeth corff proffesiynol
  • Cynllun pensiwn cyfrannol, aelodaeth BUPA a bonws gweithwyr

Y Person

Rhaid meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i gydweithio’n dda fel rhan o dîm. Bydd hefyd angen gradd anrhydedd dda mewn:

  • Gwyddorau Amgylcheddol
  • Peirianneg
  • Cyllid
  • Gwyddoniaeth.

Cyfarfod y Graddedigion

Chris

Chris

Graddedigion Ail Flwyddyn

Cliciwch yma

Rhiannon

Rhiannon

Graddedigion Ail Flwyddyn

Cliciwch yma

Craig

Craig

Graddedigion Ail Flwyddyn

Cliciwch yma

Matthew

Matthew

Graddedigion Ail Flwyddyn

Cliciwch yma

FAQ’s

Clic yma i ddarllen cwestiynau Graddedigion i Dŵr Cymru.