Hafan | Am y Cwmni | Glas Cymru | Aelodaeth
Mae Glas Cymru yn gwmni dielw heb gyfranddeiliaid a redir yn llwyr er lles ein cwsmeriaid. Yn Rhagfyr 2010 penododd Glas Cymru 26 aelod newydd yn dilyn cyfres o hysbysebion cyhoeddus. Mae hyn yn dwyn nifer yr aelodau annibynnol i 82 – sef y nifer cyflawn.
Un o rolau allweddol Aelodau Glas Cymru yw sicrhau bod y busnes yn parhau i ganolbwyntio ar ei brif bwrpas, sef darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth o safon uchel ar gyfer y cymunedau y mae Dŵr Cymru yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, mae gan yr aelodau rôl rheoli gorfforaethol bwysig ac o’r herwydd penodir aelodau am eu nodweddion personol ac nid i gynrychioli unrhyw grŵp arbennig neu unrhyw un o fuddiannau’r rhanddeiliaid. Nid yw’r aelodau’r cael ffi am eu gwaith. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob math o gefndiroedd o ran rhyw, ethnigrwydd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol ac abledd.
Penodir aelodau gan y Bwrdd yn unol â Pholisi Aelodaeth cyhoeddedig Glas Cymru, a hynny wrth ddilyn cyngor panel dethol annibynnol.
Mae dau o’r aelodau cyfredol wedi cynhyrchu podlediad er mwyn esbonio mwy am waith aelodau Glas Cymru.
Ceir esboniad pellach o rôl yr aelodau yn ein Polisi Aelodaeth.
Mae rhestr o’r aelodau cyfredol yma.
Gellir penodi aelodau unrhyw bryd. I gael rhagor o wybodaeth am ein haelodaeth, ysgrifennwch at:
R G Curtis, Ysgrifennydd y Cwmni, Glas Cymru Cyfyngedig, Heol Pentwyn, Nelson, Treharris CF46 6LY.
e-bostiwch: company.secretary@dwrcymru.com
neu ffoniwch: 01443 452387