Hafan | Cynnydd Mewn Prisiau – Lleiaf yn y Diwydiant Dŵr

Cynnydd Mewn Prisiau –
Lleiaf yn y Diwydiant Dŵr

Ar gyfer 2011–2012, fe fydd y bil cyfartalog i gartrefi ar gyfer holl gwsmeriaid Dŵr Cymru Welsh Water yn cynyddu 2.7% i £411 (2010– 2011: £400). Mae hyn yn is na’r gyfradd chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu), a hwn yw’r cynnydd lleiaf ymysg yr holl gwmnïau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr.

Fe fydd biliau unigol yn amrywio yn ôl amgylchiadau unigol ond fe fydd yr holl filiau’n codi lai na chwyddiant ar gyfer yr un faint o ddefnydd. Mae biliau cyfartalog cyffredinol i gartrefi gan Dŵr Cymru yn mynd i ostwng £30 mewn termau real dros y 5 mlynedd i 2015. Mae hyn yn ran o strategaeth Dŵr Cymru i gynnig gwell del i gwsmeiriaid.

Mae Dŵr Cymru yn awyddus i wneud popeth y gallant i gynorthwyo cwsmeriaid i fforddio’u taliadau dŵr a dŵr gwastraff, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd galed bresennol. Mae gan y cwmni amryw o dariffau cymorth i gwsmeriaid sy’n unigryw yn niwydiant dŵr y Deyrnas Unedig, ac mae’n darparu cymorth i bobl sy’n cael anhawster i dalu’u taliadau dŵr. Mae’r rhain yn cynnwys taliadau wedi’u capio i gwsmeriaid ar incwm isel, ac ystod o ddulliau casglu sy’n cynnwys disgownt am daliad uniongyrchol o fudd-daliadau.

Gan fod y cwmni’n anfon un bil unigol i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid bob blwyddyn, mae’n golygu bod yr amser hwn yn un prysur i staff bilio a gwasanaethau cwsmeriaid, ac mae Dŵr Cymru yn awgrymu y gall pobl ‘arbed amser, ar–lein’, gyda chyngor ynglJn â’r amrywiol opsiynau a mathau eraill o wybodaeth ddefnyddiol sydd ar wefan y cwmni.