Hafan | Holi, Gwrando a Gwneud…

Holi, Gwrando a Gwneud…

Picture of Customer Focus Group

Glas Cymru, cwmni un pwrpas heb unrhyw gyfranddeiliaid sy’n cael ei redeg yn llwyr er budd y cwsmeriaid, sydd biau Dŵr Cymru.

Nod Dŵr Cymru yw gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf, bob tro ac rydyn ni’n falch o ddweud mai dyna sy’n digwydd gyda’r mwyafrif helaeth o’n cwsmeriaid. Er hynny, rydyn ni am barhau i wella ein gwasanaethau er lles ein cwsmeriaid ac rydyn ni’n gwrando arnynt.

Gwasanaethau Ar-lein

Roeddech chi’n meddwl bod ein ffurflenni’n rhy hir a chymhleth oedd yn golygu nad oedden nhw ddim yn hawdd i’w llenwi ar-lein. Rydyn ni wedi gwrando’n ofalus ar eich syniadau ac wedi newid ein ffurflenni ar-lein er mwyn ei gwneud yn haws i chi wneud busnes gyda ni.


Biliau

Picture of Customer Focus Group

Roeddech chi am i ni…

  • Wneud ein biliau’n haws i’w deall
  • Gwella’r llythyrau atgoffa am daliadau, a’u gwneud yn haws i’w deall
  • Gwneud y pecyn cais am wasanaethau ategol yn haws i’w ddeall
  • Gweithredu ar y gwersi a ddysgwyd gan asiantaethau gofal
  • Cynnig rhagor o wybodaeth pan fo cwsmeriaid yn cael mesuryddion dŵr.

Fe wnaethon ni…

  • Symleiddio ein biliau ar gyfer cwsmeriaid heb fesurydd, a chyflwyno tudalennau
  • newydd ar ein gwefan sy’n esbonio pob rhan o’r bil
  • Newid ein llythyrau atgoffa am daliadau, eu symleiddio a’u gwneud yn haws i’w deall
  • Cynnal grŵp ffocws gyda’n cwsmeriaid gwasanaethau atodol er mwyn clywed beth oedd gan ein cwsmeriaid i’w ddweud am y gwasanaeth a’r pecyn cais
  • Cwrdd â phedwar sefydliad gofal allweddol yng Nghymru i drafod ein gwasanaethau
  • Dechrau gwaith i ailwampio ein cyhoeddiadau gwasanaethau ategol.

Y Tri Mis Nesaf:

Dros y 3 mis nesaf, byddwn ni’n gweithio i wella nifer o brosesau er mwyn hwyluso’r ffyrdd mae ein Cwsmeriaid yn cysylltu â ni. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Symud Tŷ
  • Cysylltiadau Newydd
  • Clirio rhwystrau o garthffosydd.

Byddwn ni’n defnyddio’r Wefan i rannu’r newyddion diweddaraf â chi ac yn parhau i ddiweddaru’r tudalennau hyn er mwyn i chi anfon eich sylwadau aton ni.