Ble’n gymwys, ac yn amodol ar reoliadau’r Adran Tollau Tramor & Cartref, bydd y prisiau’n destun TAW. Dangosir pob pris heb TAW oni nodir fel arall.
Ble’n gymwys codir TAW bob tro ar brisiau gwasanaethau a ddefnyddir mewn cysylltiad â gweithgaredd diwydiannol perthnasol. Diffinnir y gweithgareddau diwydiannol perthnasol o fewn adrannau 1 i 5 SIC (Standard Industrial Classification) 1980:
Ble darperir gwasanaethau i’r cwsmer ar gyfer gweithgaredd diwydiannol perthnasol a dibenion eraill, codir TAW os y gweithgaredd diwydiannol perthnasol yw’r prif weithgaredd.
Bydd eithriad i amodau paragraff 3 yn gymwys pan fydd cwsmer diwydiannol cymwys yn cynnal mwy nag un gweithgaredd busnes. Pan fydd gweithgaredd eilradd yn nid-diwydiannol ac yn rhydd o TAW (o dan reolau TAW y Deyrnas Unedig) yna cyn belled nad hwnnw yw’r prif weithgaredd, bydd dŵr a gyflenwir i’r gweithgaredd eilradd yn destun TAW 0%. Bryd hynny rhaid nodi’r cyflenwad dŵr hwnnw ar wahân i’r gweddill.