Mae pob agwedd ar berfformiad Dŵr Cymru yn destun prosesau monitro a rheoleiddio caeth. Mae’r tabl isod yn nodi rolau a chyfrifoldebau Rheoleiddwyr y cwmni, ynghyd â’r manylion cyswllt.
Ofwat yw’r rheoleiddiwr economaidd. Ei rôl yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth da am bris teg wrth bennu terfynau prisiau; sicrhau ein bod yn cynnal ein cyfrifoldebau statudol; diogelu safonau gwasanaeth cwsmeriaid; a hyrwyddo effeithiolrwydd.
Office of Water Services,
Centre City Tower,
Birmingham,
B5 4UA
Y Cyngor sy’n hyrwyddo a chynrychioli buddion ein cwsmeriaid yn nhermau prisiau, gwasanaeth a gwerth am yr arian. Bydd hefyd yn ymchwilio cwynion cwsmeriaid.
Yr Arolygaeth Dŵr Yfed sy’n sicrhau ein bod yn cyflenwi dŵr yfed diogel sy’n cwrdd â safonau’r Rheoliadau Dŵr Yfed. Bydd hefyd yn ymchwilio cwynion cwsmeriaid ac achosion sy’n effeithio, neu allai effeithio, ansawdd dŵr yfed.
Drinking Water Inspectorate
55 Whitehall
C/O 3-8 Whitehall Place
London
SW1A 2HH
Yr Asiantaeth sy’n monitro a gorfodi cydymffurfiad â safonau ansawdd dŵr amgylcheddol. Mae hefyd yn sicrhau y defnyddir a rheolir adnoddau dŵr yn effeithiol.
Y Cynulliad sy’n sicrhau ein bod yn dilyn deddfwriaeth Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig wrth wneud rheoliadau a chyhoeddi cyfarwyddyd statudol. Bydd y Cynulliad hefyd yn rhoi cyfarwyddyd i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar raglenni dŵr yfed ac ansawdd amgylcheddol pan fydd yn ystyried gosod terfynau prisiau.
Amgylchedd: Adran Diogelu ac Ansawdd,
Llywodraeth Cynulliad Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ.