Bob pum mlynedd bydd y cwmnïau dwr a charthffosiaeth yn cyflwyno cynlluniau ger bron Ofwat yn manylu sut byddant yn cynnal a gwella gwasanaethau ar gyfer eu cwsmeriaid. Dechreuodd yr adolygiad diwethaf ym mis Hydref 2002. Cwblhawyd yn Rhagfyr 2004 pan gyhoeddodd Ofwat y ‘penderfyniad terfynol’. Daeth y terfynau prisiau newydd i rym yn Ebrill 2005 a byddant yn para pum mlynedd tan fis Mawrth 2010.