Byddwn yn mesur ein gwaith yn rheolaidd a bydd Ofwat yn cymharu ein perfformiad â gweddill y diwydiant dŵr. Bob blwyddyn bydd Ofwat yn cynhyrchu nifer o adroddiadau er mwyn cymharu perfformiad cwmnïau dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr, megis:
Lefelau gwasanaeth
Perfformiad ariannol a gwariant cwmnïau dŵr Cymru a Lloegr
Y llynedd roedd Dŵr Cymru yn gydradd gyntaf yn yr Asesiad Perfformiad Cyffredinol a gyhoeddwyd gan Ofwat ar wasanaethau’r 10 prif gwmni dŵr. Fodd bynnag, mae dal digon o feysydd ble gallwn wella ein perfformiad yn unol â’n cynllun busnes.