Rhedir yr ystafell ddosbarth gan athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur & teithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i ymchwilio pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal profion dosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm. Mae’r rhaglen addysg hefyd yn cynnwys arddangosfa hanesyddol o’r gwaith i adeiladu argae Alwen.
Cilfynydd, cymoedd y dde
Mae canolfan Cilfynydd wedi ennill gwobrau ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth dan do ac awyr agored o dan reolaeth athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur, astudiaethau Afon Taf a theithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i ymchwilio pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal profion dosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm.
Rhosydd Cog, ger Caerdydd
Rhedir yr ystafell ddosbarth gan athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur & teithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i ymchwilio pyllau dŵr, cyfeiriadu (orienteering), mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal profion dosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol o fewn ardal gadwraeth.
Cwm Elan, canolbarth
Ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan, mae’r swyddog addysg yn rheoli ystafell ddosbarth yn llawn adnoddau defnyddiol. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau dŵr bywyd gwyllt, llwybrau natur & taith o gwmpas yr argaeau. Gall ysgolion ymweld i ymchwilio pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal profion dosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae’r ardal yn cynnwys cyfoeth o anifeiliaid a phlanhigion, sy’n gwneud Elan yn safle bywyd gwyllt o ddiddordeb rhyngwladol.
Os am holi ymhellach, cliciwch yma i lenwi ffurflen ymholiadau ar-lein.