corner

Polisi Bioamrywiaeth

Dwr Cymru Welsh Water

Datganiad Bioamrywiaeth, Mynediad a Hamdden

Rydym wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth, diogelu ein treftadaeth archeolegol a hyrwyddo mynediad a hamdden ar ein safleoedd.

 

Wrth wneud hynny, byddwn yn

  • Hyrwyddo arferion da ac yn integreiddio ystyriaethau bioamrywiaeth a threftadol drwy’r busnes
  • Rheoli adnoddau dŵr a thir er mwyn cynyddu a symbylu defnydd o’n safleoedd gan y cyhoedd
  • Cynnal ymgynghoriadau, arolygon ac ymchwil er mwyn cymryd penderfyniadau gweithredu a rheoli ar sail data dibynadwy
  • Gweithredu cynlluniau cynefinoedd a rhywogaethau ar ein safleoedd er mwyn datblygu cynllun bioamrywiaeth corfforaethol
  • Rhannu data ecolegol a threftadol gyda chyrff cymwys
  • Siarad â, a datblygu cysylltiadau positif â’r cyhoedd a chyrff cadwraeth, mynediad a hamdden allweddol
  • Bod yn barod i ystyried meysydd sensitif wrth weithredu cynlluniau
  • Dilyn yr holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a’r codau ymarfer cymwys.

Byddwn yn gwneud hynny wrth

  • Seilio penderfyniadau busnes ehangach ar ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cadarn
  • Cymryd camau i sicrhau bydd pob aelod staff, yn cynnwys pobl a gyflogir gan bartneriaid contract allanol, yn ymwybodol o, ac yn dilyn y Polisi hwn
  • Adolygu ein perfformiad amgylcheddol yn rheolaidd a phennu targedau er mwyn sicrhau gwelliant parhaus
  • Adrodd canlyniadau i bwyllgor ansawdd ac amgylchedd y Bwrdd, gan gyhoeddi arolwg perfformiad yn achlysurol.

 

Nigel Annett
Rheolwr Gyfarwyddwr

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
corner

Gwybodaeth bellach

Arolwg Bioamrywiaeth

Arolwg Bioamrywiaeth

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 678kb


Arolwg Amgylcheddol

Arolwg Amgylcheddol

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

File size: 679kb