RYDYCH YMA > Hafan > Llyfrgell > Hysbysiad Pwysig - Codi rhybudd berwi dŵr

Hysbysiad Pwysig - Codi rhybudd berwi dŵr

corner

Gwasanaethau dŵr ac argyfwng

  • Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0130

18.09.08 | Y mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i ddefnyddio dŵr tap fel yn ôl eu harfer

Y mae Dŵr Cymru Welsh Water heddiw (dydd Iau, y 18fed o Fedi) wedi dweud wrth 45,000 o gwsmeriaid yng Ngogledd Orllewin Cymru nad oes arnynt angen mwyach ferwi’u dŵr.

Fe ddywed y cwmni ei fod yn hyderus bod y dŵr tap yn awr yn ddiogel i yfed oherwydd bod cyfarpar newydd a osodwyd yn y gwaith trin yr effeithiwyd arno ym Mynydd Llandygai yn lladd yr holl gryptosporidiwm yn llwyddiannus yn y cyflenwad dŵr.

Y mae’r driniaeth uwch-fioled newydd wedi’i phrofi’n drylwyr ar ôl iddi gael ei gosod wythnos yn ôl.

Hyd yn hyn (dydd Iau, y 18fed o Fedi), y mae cyfanswm o ddeg o achosion o gryptosporidiosis yn Ynys Môn a Gwynedd wedi’u hymchwilio.  Y mae yna bob amser lefel gefndirol o achosion, yn bennaf o ganlyniad i deithio tramor neu gysylltiad ag anifeiliaid.  Yn yr achos hwn, y mae unrhyw gysylltiad â dŵr yfed wedi bod yn hollol ddi-sail ym mhob un o’r deg achos.

Y mae pob achos yn cael ei ymchwilio fel mater o drefn i ganfod yr achos tebygol ac, oherwydd cyfnod deor cryptosporidiwm, y mae’n bosibl y gallai achosion sy’n gysylltiedig â’r cyflenwad dŵr ymddangos yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.  

Y mae’r rhybudd i ferwi dŵr wedi bod mewn grym fel mesur rhagofalus ers yr 28ain o Awst, pan wnaeth samplo dŵr yn y modd arferol ym Mynydd Llandygai ddatgelu cynnydd yn lefelau cryptosporidiwm, a all beri gwaeledd.  Fe roddwyd y rhybudd i gwsmeriaid yn ardaloedd Bangor, Bethesda, Capel Curig, Llanfairpwllgwyngyll a Phorthaethwy.

Y mae cwsmeriaid ym mhentref Capel Curig yn derbyn dŵr o ffynhonnell arall, tan y gosodir triniaeth uwch-fioled yn y gwaith trin dŵr bychan sy’n gwasanaethu’r ardal honno.

Fe ddywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dŵr Cymru Welsh Water, Peter Perry: “Fe fydd y broses drin uwch-fioled yr ydym wedi’i gosod ym Mynydd Llandygai yn lladd unrhyw gryptosporidiwm sy’n bresennol.  Yr ydym yn falch y gallwn yn awr ddiddymu’r rhybudd berwi a rhoi diwedd ar yr anhwylustod hwn i bobl leol. 

“Ansawdd dŵr yw’n blaenoriaeth uchaf ac fe wnaethom gyflwyno’r rhybudd berwi hwn er mwyn sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu’n llawn.  Hyd yn hyn, nid oes yna unrhyw achosion o waeledd y rhoddwyd gwybod amdanynt o ganlyniad i’r cryptosporidiwm yn y cyflenwad dŵr.”

Fe wnaeth Mr Perry barhau ac meddai: “Y mae’n ddrwg iawn gennym fod y cam rhagofalus hwn wedi golygu bod cwsmeriaid wedi gorfod berwi dŵr, ac, fel yr addawyd, fe fyddwn yn anfon siec iddynt am £25 am yr anhwylustod a achoswyd.  Fe fydd y siec hon yn cyrraedd o fewn yr un diwrnod ar hugain nesaf ac y mae’n broses awtomatig. Nid oes ar gwsmeriaid angen cysylltu â ni i ofyn am y taliad.

“Fe hoffwn ddiolch i bobl am fod yn amyneddgar gyda ni tra bod y rhybudd rhagofalus hwn i ferwi dŵr yn weithredol.”

Y mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyhoeddi y byddant yn prysuro buddsoddiad gwerth £9 miliwn yn rhagor sydd eisoes yn yr arfaeth ar gyfer Mynydd Llandygai a fydd yn gwella rhagor ar ansawdd cyffredinol y dŵr a gyflenwir.  Fe all cwsmeriaid y mae ganddynt unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r mater hwn gysylltu â Dŵr Cymru Welsh Water ar 0800 0520130.

Diwedd


Cwestiynau Cwestiynau ac Atebion


Question

Pam oedd angen berwi’r dŵr?

Answer

Datgelodd ein rhaglenni samplo rheolaidd gynnydd yn y cryptosporidiwm yn y dŵr – y math a welir fel arfer mewn defaid neu geirw.

Question

Pam ydych chi’n codi’r hysbysiad?

Answer

Erbyn hyn gosodwyd offer uwchfioled yn y gwaith trin dŵr, sy’n lladd cryptosporidiwm.

Question

Beth yw’r driniaeth uwchfioled a beth fydd yr effaith ar bobl?

Answer

Bydd yn lladd unrhyw gryptosporidiwm yn y dŵr crai’n cyrraedd gwaith trin Llandygai. Ni fydd y driniaeth uwchfioled yn cael unrhyw effaith arnoch chi.

Question

Ydy’r dŵr yn ddiogel i yfed erbyn hyn?

Answer

Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Berwi Dŵr fel mesur diogelwch yn unig ac ni chofnodwyd unrhyw achosion salwch yn deillio o bresenoldeb y parasit. Bydd y broses uwchfioled yn darparu triniaeth ychwanegol fydd yn lladd unrhyw gryptosporidiwm yn y dŵr felly mae’r dŵr tap yn ddiogel erbyn hyn.

Question

Roedd rhaid i mi ferwi’r dŵr yn 2005 am fod y dŵr yn dŵad o gronfa Cwellyn ac wrth osod yr offer uwchfioled byddai’r holl gryptosporidiwm yn cael ei ladd. Pam oedd angen i mi ferwi’r dŵr eto y tro hwn?

Answer

Mae eich dŵr tap yn gymysgedd o ddŵr o gronfeydd Cwellyn a Mynydd Llandygai. Gosodwyd offer uwchfioled eisoes yng ngwaith Cwellyn, ond gan fod rhan o’ch dŵr yn dŵad o Fynydd Llandygai, gofynnwyd pobl i ferwi’r dŵr er diogelwch. Erbyn hyn gosodwyd offer uwchfioled ym Mynydd Llandygai.

Question

Ydych chi wedi datgelu’r rheswm am bresenoldeb y cryptosporidiwm yn y cyflenwad dŵr?

Answer

Rydym yn dal i ymchwilio achosion y cynnydd yn y lefelau cryptosporidiwm, ond datgelwyd ei fod yn bresennol mewn dŵr crai yng nghronfa Ffynnon Lligwy.

Question

Allai hyn ddigwydd eto?

Answer

Bydd y broses uwchfioled yn lladd cryptosporidiwm felly ni fyddwn yn debyg o ofyn i chi ferwi’r dŵr eto.

Question

Fyddwch chi’n talu iawndal?

Answer

Rydym yn cydnabod fod gofyn pobl i ferwi eu dŵr yn achosi anghyfleustra, felly byddwn yn talu £25 i bob cwsmer perthnasol. Byddwn yn anfon sieciau o fewn 21 diwrnod o godi’r hysbysiad berwi dŵr (18 Medi 2008).

Question

Fydd hi’n iawn i ddefnyddio peiriannau diodydd, dŵr ac ati?

Answer

Bydd, ond os oes ffilter ar-lein yn y peiriant bydd angen ei newid cyn ei ddefnyddio.

 

corner

Gwybodaeth bellach

Clic yma i weld manylion
 Dŵr yn glir

DŴR YN GLIR

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 82kb


CWESTIYNAU CYFFREDIN

Clic yma i ddarllen mwy...

LLYTHYR I GWSMERIAID

Clic yma i ddarllen mwy...

 

 

HYSBYSEB BERWI DŴR GWREIDDIOL
29th Awst 2008

Gofyn cwsmeriaid Dŵr Cymru yn ardal Bangor i ferwi dŵr tap.
Clic yma i ddarllen mwy...