corner

Newyddion / Datganiadau i'r wasg

DCWW Logo

11/08/2008

Y MAE DWR CYMRU WELSH WATER YN CYHOEDDI’U CYNLLUN BUSNES DRAFFT

Biliau unradd a rhaglen fuddsoddi gwerth £1.5 biliwn

 

Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw wedi cyflwyno'u Cynllun Busnes Drafft i Ofwat, rheolydd y diwydiant dwr. Dyma'r cam cyntaf yn yr adolygiad pum mlynedd a fydd yn pennu safonau, gwariant buddsoddi a biliau cwsmeriaid ar gyfer y cyfnod nesaf, 2010-2015. Dros y misoedd sydd i ddod, fe fydd y Cynllun Busnes Drafft hwn yn cael ei adolygu a'i herio gan Ofwat ac eraill, ac fe fydd y Cynllun Busnes Terfynol wedyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

 

Y mae Dwr Cymru Welsh Water ym mherchenogaeth Glas Cymru, sydd yn unigryw ymysg cwmniau cyfleustod y Deyrnas Unedig yn yr ystyr nad oes ganddynt gyfranddalwyr a'u bod yn ail-fuddsoddi'u holl wargedion ariannol er budd a lles cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water.

 

Yn eu Cynllun Busnes Drafft, y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig

  • Dim gwir gynnydd mewn biliau cyfartalog i gartrefi ar ol 2010 - fe fydd y bil cyfartalog am ddwr yfed a charthffosiaeth yn aros ar oddeutu £390 i bob cartref neu ychydig dros £1 y dydd, cyn ychwanegu chwyddiant cyffredinol.
  • Rhaglen buddsoddi cyfalaf o £1.5 biliwn, cyn ychwanegu chwyddiant cyffredinol – sy'n gyfwerth a mwy na £1,000 i bob cartref – gan barhau a'r lefel gyfredol o wariant ar fuddsoddi sydd eisoes yn uchel.

Rhaglen buddsoddi cyfalaf

Fe fydd y rhaglen buddsoddi cyfalaf gwerth £1.5 biliwn yn cael ei gweithredu dros y pum mlynedd rhwng 2010 a 2015, ac fe fydd yn darparu rhagor o fuddion arwyddocaol ar gyfer ein cwsmeriaid ac ar gyfer yr amgylchedd.

 

Y mae uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Gwelliannau i drin dwr mewn 26 o safleoedd i ddarparu rhagor o ddiogelwch i ansawdd dwr yfed (£153 miliwn).
  • Buddsoddiad mewn 92 o safleoedd i ddiogelu ansawdd dyfroedd afonydd, dyfroedd yr arfordir a dyfroedd pysgod cregyn (£106 miliwn).
  • Cyfleusterau uwch o ran trin dwr mewn 4 safle i leihau costau ynni ac i ostwng ein "hol troed carbon" o thua 25% (£98 miliwn).
  • Buddsoddi parhaus i leihau'r perygl y bydd gorlifo o garthffosydd i eiddo yn ailddigwydd (£37 miliwn).
  • Rhaglen gychwynnol - Draenio Trefol Cynaliadwy - i ddechrau cael gwared a dwr wyneb rhag iddo fynd i mewn i'n rhwydwaith carthffosiaeth (£30 miliwn).
  • Cam II o'n rhaglen newid a alluogir gan Dechnoleg Gwybodaeth i wella effeithiolrwydd a gwasanaeth i gwsmeriaid (£90 miliwn).
  • Isadeiledd newydd i gynnal datblygu economaidd (£94 miliwn).

Cynllun Busnes Terfynol

Dros y misoedd sydd i ddod, fe fydd y Cynllun Busnes Drafft yn ddarostyngedig i graffu manwl a herio gan Ofwat, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a rheolyddion a rhanddeiliaid eraill. Fe fydd yn rhaid inni hefyd gymryd i ystyriaeth amryw o risgiau posibl, yn cynnwys yr hinsawdd economaidd ansicr iawn a all gael effaith andwyol ar ein Cynllun Busnes Terfynol. Fe fydd y Cynllun Busnes Terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

 

To view the Draft Business Plan, please click the following links:

Yr ydym yn croesawu barnau ac adborth ynglyn a'r hyn yr ydym yn ei gynnig - y mae'n hanfodol bod ein cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod yn cynnwys y pecyn gorau posibl ac yn cydbwyso fforddiadwyedd gyda safonau'r gwasanaeth a dibynadwyedd.

 

Diwedd

 

Ymholiadau i swyddfa gwasg Dwr Cymru Welsh Water ar 029 2055 6140.

 

Nodiadau i Olygyddion

Yn Dwr Cymru Welsh Water, yr ydym a'n bryd ond ar ddarparu dwr yfed diogel a dibynadwy a gwasanaeth iechydaeth dibynadwy i'n cwsmeriaid, gwarchod yr amgylchedd rhag llygredd oddi wrth garthion ac, yn hollol hanfodol, gofalu am y diwydiant dwr a'r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol y mae'n ei ddarparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Byth ers i Glas Cymru - cwmni "nid-er-elw" nad oes ganddo gyfranddalwyr - afael yn awenau perchenogaeth Dwr Cymru Welsh Water yn ol yn 2001, ni fu gennym unrhyw flaenoriaethau sy'n gwrthdaro, megis gwneud elw ar gyfer cyfranddalwyr.


Y mae'n Cynllun Busnes Drafft yn nodi'n fanwl yr hyn yr ydym yn dymuno'i wneud a'i gyflawni yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Y mae wedi cymryd tim o arbenigwyr sy'n deillio o bob cwr o'r diwydiant dwr yng Nghymru fwy na 18 mis i'w baratoi; y mae'r Cynllun Busnes Drafft yn cynnwys mwy na 1,000 o dudalennau ac y mae'n cynnwys mwy na 10,000 o eitemau o ddata a dadansoddiadau. Y mae hysbysu'n holl waith gan arwain ymlaen at y Cynllun Busnes Drafft hwn wedi bod yn nod o gael y cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd ar y naill law ac ansawdd a dibynadwyedd gwasanaeth ar y llaw arall.

 

Rhaglen o fuddsoddi parhaus

Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn defnyddio rhwydwaith o asedau - cronfeydd dwr, gweithiau trin dwr, gorsafoedd pwmpio, prif bibellau dwr a charthffosydd - a fyddai heddiw'n costio £19 biliwn i'w newid, sef mwy na £10,000 y cwsmer. Y mae llawer o'r hyn a wnawn o ddydd i ddydd i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus dibynadwy ac o ansawdd uchel yn golygu gweithredu a chynnal a chadw'r rhwydwaith anferth hwn o asedau sydd yn aml yn asedau hir iawn eu hoes. Y mae'i berfformiad felly'n allweddol i ansawdd y gwasanaeth a roddwn i'n cwsmeriaid, yn ogystal a'n gallu i warchod yr amgylchedd rhag llygredd. Dyna pam bod llawer o'n Cynllun Busnes Drafft yn ymwneud a'r hyn yr ydym yn bwriadu'i wneud a'i wario ar gynnal a chadw, adnewyddu a, ble y bo'n angenrheidiol, uwchraddio'r rhwydwaith hwn o asedau er budd ein cwsmeriaid a gwarchod ein hamgylchedd.

 

Y mae'r Cynllun Busnes Drafft yn cynnwys darpariaeth ar gyfer uwchraddio amryw o'n gweithiau trin dwr, gan nad oes dim yn bwysicach na dwr yfed diogel; gwaith ychwanegol ar gynnal a chadw ac adnewyddu asedau, er drwyddo draw y bydd y rhwydwaith yn parhau i fynd yn hyn; darparu amryw o gynlluniau gwelliannau amgylcheddol statudol; gwytnwch ychwanegol rhag y perygl o lifogydd; a phrosesau trin newydd a fydd yn gwella'n effeithiolrwydd o ran costau a gostwng ein "hol troed carbon" oddeutu 25%. Y mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer mynd i'r afael yn rhagor a phroblemau peryglon llifogydd carthffosydd difrifol, y methiant gwaethaf posibl mewn gwasanaeth i gwsmeriaid, a hynny drwy gynlluniau buddsoddi penodol a dechrau strategaeth hirdymor i ostwng faint o ddwr wyneb sydd yn mynd i mewn i'n rhwydwaith carthffosydd ("Draenio Trefol Cynaliadwy").

 

Fforddiadwyedd

Blaenoriaethu'r rhaglen fuddsoddi fel y gellid ei hariannu a'i fforddio gan gwsmeriaid yw'r nodwedd allweddol o'n Cynllun Busnes Drafft. Y mae'n rhaid inni sicrhau y gall pobl fforddio i dalu am wasanaeth cyhoeddus mor bwysig a hanfodol a dwr yfed ac iechydaeth. Y mae hyn o bwys neilltuol yng Nghymru oherwydd bod bil cyfartalog cartrefi Dwr Cymru Welsh Water yn parhau i fod tua 15% yn uwch na'r cyfartaledd - dim ond oherwydd bod Dwr Cymru Welsh Water yn defnyddio mwy o asedau am bob cwsmer na'r rhan fwyaf o gwmniau eraill o ganlyniad i ddaearyddiaeth Cymru. Yn ogystal, y mae incymau cyfartalog cartrefi yn is nag mewn mannau eraill. Oherwydd nad oes gennym unrhyw gyfranddalwyr, yr ydym wedi gallu lliniaru'r anfantais ddifrifol hon drwy'n "buddran cwsmeriaid" gynyddol - £21 i bob cwsmer eleni - ac erbyn 2010, fe fyddwn wedi talu cyfanswm o £150 miliwn o "fuddrannau cwsmeriaid".

 

Yr ydym yn credu y gallwn gyflawni'r rhaglen fuddsoddi gwerth £1.5 biliwn heb orfod codi biliau ar gyfartaledd o fwy na chwyddiant cyffredinol oherwydd, o ganlyniad i'n perchenogaeth "nid-er-elw" unigryw, yr ydym yn credu y gallwn ariannu'r rhaglen yn fwy effeithlon na mannau eraill a hefyd oherwydd ein bod wedi pennu targedau effeithlonrwydd llym ar gyfer y busnes a fydd yn gwneud iawn am y bil llog cynyddol ar yr arian ychwanegol y bydd yn rhaid inni'i godi oddi wrth fuddsoddwyr bondiau i gyllido'r rhaglen fuddsoddi.