Y mae trigolion sy’n byw mewn ardaloedd o’r Rhyl sy’n dueddol i ddioddef llifogydd yn cael eu gwahodd i rannu gwybodaeth a fydd yn cynorthwyo i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r broblem yn lleol.
Y mae Dwr Cymru heddiw yn cyhoeddi canlyniadau gweithredol ac ariannol cadarn ar gyfer yr hanner blwyddyn sy’n diweddu ar y 30ain o Fedi 2008, er gwaethaf codiadau arwyddocaol yng nghostau pwer a thaliadau drwgddyledion. Er gwaethaf yr amgylchedd economaidd dyrys, y mae sefyllfa ariannol y cwmni wedi parhau i gryfhau, gyda gerio wedi’i leihau ymhellach i 71% ar ddiwedd y cyfnod (2007: 73%). Y mae gan y busnes hefyd sefyllfa hylifedd gref, gyda chyllid yn ei le am o leiaf weddill y cyfnod buddsoddi rheoliadol pum mlynedd cyfredol tan 2010.
Y mae Dwr Cymru heddiw yn cyhoeddi canlyniadau gweithredol ac ariannol cadarn ar gyfer yr hanner blwyddyn sy’n diweddu ar y 30ain o Fedi 2008, er gwaethaf codiadau arwyddocaol yng nghostau pwer a thaliadau drwgddyledion. Er gwaethaf yr amgylchedd economaidd dyrys, y mae sefyllfa ariannol y cwmni wedi parhau i gryfhau, gyda gerio wedi’i leihau ymhellach i 71% ar ddiwedd y cyfnod (2007: 73%). Y mae gan y busnes hefyd sefyllfa hylifedd gref, gyda chyllid yn ei le am o leiaf weddill y cyfnod buddsoddi rheoliadol pum mlynedd cyfredol tan 2010.
Y mae trigolion ym Mhenarth yn cael y cyfle i weld cynlluniau Dwr Cymru Welsh Water ar gyfer cynllun gwerth £650,000, a fydd yn darparu hwb amgylcheddol i forlin y dref.
Nid oes arnoch angen bod yn Doctor Who i deithio drwy amser gyda Cheidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn Stad Cwm Elan y penwythnos hwn sydd ar ddod.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water i fod i ddechrau cynllun buddsoddi gwerth £2.1 miliwn yr wythnos nesaf (dydd Llun, y 10fed o Dachwedd) i wella rhagor ar berfformiad y rhwydwaith dwr gwastraff yn Llanelli.
Y mae trigolion sy’n byw yn Ffordd Deganwy, Llandudno yn mynd i elwa oddi wrth gynllun gan Dwr Cymru Welsh Water, a fydd yn cynorthwyo i liniaru’r risg o ddwr gwastraff yn gorlifo i eiddo yno.
Y mae cynllun gwelliannau gwerth £95,000 yn dechrau yr wythnos hon (dydd Llun, y 10fed o Dachwedd) gan Dwr Cymru Welsh Water yn ardal Brown Street yng Nglyn Rhedynog, a fydd yn lliniaru llifogydd lleol ac yn dod a buddion amgylcheddol i’r Afon Rhondda Fach.
Y mae cynllun gwelliannau gwerth £750,000 yn dechrau yr wythnos hon (dydd Llun, y 10fed o Dachwedd) gan Dwr Cymru Welsh Water yn ardal Glynebwy, a ddaw a buddion amgylcheddol i’r Afon Ebwy.
Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn dechrau gwaith yr wythnos nesaf ar gynllun gwerth £1.4 miliwn i wella perfformiad y rhwydwaith dwr gwastraff ym Mhorthcawl.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau gwaith ar bum cynllun i wella rhagor ar berfformiad y rhwydwaith dwr gwastraff yn Aberdaugleddau a dod a budd i ansawdd dwr afonydd yn yr ardal.
Cadwch eich plantos yn ddedwydd yr hanner tymor hwn gyda dau ddiwrnod o weithgareddau Nos Galan Gaeaf i godi arswyd, sy’n cael eu cynnig i’w difyrru hwynt yng nghanolfan ymwelwyr Cwm Elan.
Y mae athrawes gylchynol Dwr Cymru Welsh Water, Mary Watkins, wedi bod yn addysgu disgyblion Casnewydd am yr amgylchiadau yr oedd hi’n dyst iddynt drosti’i hun yn Uganda, fel rhan o genhadaeth ymchwiliol gyda’r elusen Cymorth Dwr.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water am gynnal arddangosfa gyhoeddus sy’n rhoi manylion yr ail gam yn eu cynllun buddsoddi gwerth £709,000, a fydd yn parhau i ddarparu dwr yfed o safon uchel i gwsmeriaid ym Mro Morgannwg.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi llofnodi cytundeb benthyca gwerth £100 miliwn gyda Banc Buddsoddi Ewrop (EIB) i sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau gwelliannau hanfodol i ddwr a dwr gwastraff drwy Gymru i gyd tan 2010.
Y mae staff canolfan alwadau Dwr Cymru Welsh Water unwaith eto wedi cofleidio Wythnos Genedlaethol Gwasanaeth Cwsmeriaid ac y maent wedi dechrau ar lu o weithgareddau i ddathlu’r digwyddiad blynyddol.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw (dydd Gwener, y 10fed o Hydref) yn dathlu cwblhau buddsoddiad o fwy na £10 miliwn, a wariwyd yn uwchraddio dau o’u gweithfeydd trin dwr gwastraff, i ddarparu buddion amgylcheddol ac economaidd i’r Bari a Chaerdydd.
Y mae trigolion yng Nghefn Hengoed a Phenpedairheol yn cael y cyfle i edrych ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £1.5 miliwn sydd gan Dwr Cymru Welsh Water.
Y mae yna gynllun gwelliannau gwerth £400,000 ar y gweill gan Dwr Cymru Welsh Water yn ardal Stryd y Castell (Castle Street) yn Abertyleri, a fydd yn dod a buddion amgylcheddol i’r Afon Ebbw Fach.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw yn lansio ‘Man Gwyrdd Cymru’ – menter i hyrwyddo draenio naturiol i gynorthwyo’r rhwydwaith carthffosiaeth i ymdopi’n well gyda newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd mewn trefoli er mwyn gostwng digwyddiadau o lifogydd carthffosydd.
Y mae’r cwmni’n ymgysylltu a phartneriaid drwy Gymru i gyd i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y gellir ei wneud i leihau’r risg o lifogydd carthffosydd oherwydd stormydd glaw llifeiriol a’r cyfaint cynyddol o ddwr wyneb sy’n llifo ymaith o doeau a mannau palmantog.
Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn cynnal arddangosfa gyhoeddus yr wythnos nesaf i egluro cynllun gwerth £1.4 miliwn i leihau’r risg o lifogydd o’n carthffosydd i eiddo yn y dref.
Fe fydd y cynllun i wella perfformiad y rhwydwaith dwr gwastraff yn golygu newid 750 o fetrau o garthffosydd. Fe fydd hyn yn cynyddu cynhwysedd ar y rhwydwaith ac yn lleihau’r risg o lifogydd yn ystod amgylchiadau tywydd storm.
Fe fydd Dwr Cymru Welsh Water yn dechrau ar gynllun gwerth £340,000 i wella perfformiad rhwydwaith dwr gwastraff Pontardawe a dod a budd i ansawdd dwr afon yn yr ardal.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn paratoi i fuddsoddi mwy na £100 miliwn yng Ngogledd Cymru i uwchraddio tri ar ddeg (13) o weithfeydd trin dwr yfed sy’n cyflenwi bron 500,000 o bobl.
Fe fydd y buddsoddiad yn mynd i’r afael ag ystod o faterion i wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Y mae’n cynnwys gwaith adnewyddu sylweddol ar weithfeydd trin dwr, gyda gosod cyfarpar newydd i roi hwb i ansawdd ac i ddarparu diogelwch ychwanegol i gyflenwad dwr.
Ddydd Sul, y 5ed o Hydref, pam na ddewch yn dditectif amser am y diwrnod a’i hanelu hi am Lyn Brenig i ddatgloi hanes cuddiedig yr ardal gyda Cheidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water?
Y mae trigolion yng Nghaerffili yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau Dwr Cymru Welsh Water ar gyfer cynllun gwerth £1 filiwn a fydd yn cynorthwyo i liniaru’r perygl o lifogydd yn Heol Bedwas.
Y mae disgyblion o Ysgol Gynradd Markham yn Y Coed Duon wedi profi’u bod yn eithriadol o effeithlon gyda dwr yn yr ysgol ac yn y cartref, fel ei gilydd - mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Dwr Cymru Welsh Water.
Fe gaiff ymwelwyr a chronfa ddwr Llyn Brenig o eiddo Dwr Cymru Welsh Water y cyfle i ddysgu hobi newydd celfydd ar y dwr a darganfod mwy am y byd rhyfeddol sy’n bodoli oddi tano y penwythnos hwn.
“Efallai bod yr haf y tu cefn inni, ond nid yw’n bryd cadw’r esgidiau cerdded ‘na yn union eto”, yw’r neges oddi wrth Geidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan.
Fe wahoddir anturiaethwyr yr hydref i ymuno a Chrwydr Caban ddydd Sul, y 14eg o Fedi a chanfod mwy am hanes yr ardal tra eu bod yn dystion i ddechreuad y newidiadau tymhorol.
Y mae dau o athrawon o Dde Cymru wedi camu allan o’r ystafell ddosbarth ac i mewn i’r awyr fawr agored am secondiad blwyddyn gyda Dwr Cymru Welsh Water.